Mae arweinydd cyngor wedi rhybuddio y bydd Cymoedd y de yn cymryd “o leiaf degawd” i wella o effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws.
Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf – sef yr ardal sydd wedi ei tharo waethaf yn y Deyrnas Unedig o ran marwolaethau Covid – fod cymunedau mewn perygl o “broblemau iechyd meddwl parhaus” oherwydd digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf.
“Gymaint ag y daeth y gymuned at ei gilydd i gefnogi ei gilydd, rwy’n meddwl ar ôl i’r pandemig ddod i ben, efallai y gwelwn broblemau iechyd meddwl parhaus,” meddai Andrew Morgan wrth ITV Cymru.
Cyfradd hunanladdiad wedi dyblu
Eglurodd Andrew Morgan fod cyfradd hunanladdiad yn yr ardal bron wedi dyblu.
“Mae hynny’n rhywbeth, wrth symud ymlaen, mae angen i ni fynd i’r afael ag ef,” meddai.
Yn ogystal â chael ei daro’n wael gan y feirws, achosodd llifogydd ddifrod i gymunedau yn y Cymoedd y llynedd, ac fe gafodd mil o gartrefi ac oddeutu 300 o fusnesau eu heffeithio.
Yn ôl amcangyfrif gan y cyngor, achosodd y storm wedi werth tua £30 miliwn o ddifrod.
Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae busnesau, ysgolion a thafarndai yn yr ardal yn parhau i fod ar gau oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf, ac mae Andrew Morgan yn credu na fydd gwir effeithiau’r pandemig yn cael eu gweld nes ei fod ar ben.
Mae 1,388 o bobol wedi marw yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf ers dechrau’r pandemig – y nifer uchaf yng Nghymru – ac yn ystod mis Rhagfyr, roedd bron i 800 o bobol ymhob 100,000 wedi profi’n bositif am feirws yn yr ardal.
Galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i effaith ddinistriol llifogydd yn Rhondda Cynon Taf
- tharo gwaethaf
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf