Mae Gweinyddiaeth Dramor Rwsia wedi diarddel diplomyddion yr Almaen, Gwlad Pwyl a Sweden am fynychu rali yn cefnogi arweinydd yr wrthblaid, Alexei Navalny.
Cynhaliwyd protestiadau torfol “anghyfreithlon” i gefnogi Alexei Navalny ddiwedd mis Ionawr.
Roedd diplomyddion o Sweden a Gwlad Pwyl yn St Petersburg a rhai o’r Almaen yn Moscow, yn rhan o’r ralïau, ac mae Rwsia o’r farn bod eu gweithredoedd yn annerbyniol ac yn amhriodol.
Mae’r weinyddiaeth wedi gofyn iddyn nhw adael Rwsia mor fuan â phosib.
Daw’r cyhoeddiad wedi i ddiplomyddion uchaf yr Undeb Ewropeaidd ddweud wrth weinidog tramor Rwsia fod triniaeth Alexei Navalny yn “bwynt isel” yn y berthynas rhwng Brwsel a Moscow.
Cafodd Alexei Navalny ei arestio ym maes awyr Moscow ar Ionawr 17 ar ôl treulio pum mis yn yr Almaen yn cael triniaeth, ar ôl iddo gael ei wenwyno gyda Novichok.
Mae wedi rhoi’r bai ar wasanaeth cudd-wybodaeth Rwsia, yr FSB, am ei wenwyno.