Mae Alexei Navalny, arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia, mewn coma yn yr ysbyty yn dilyn adroddiadau ei fod wedi cael ei ‘wenwyno’.
Yn ôl llefarydd ar ran Alexei Navalny bu rhaid i awyren roedd yr arweinydd yn teithio arni lanio yn Omsk, ar ôl iddo gael ei daro’n wael.
Mae ei lefarydd, Kira Yarmysh, yn honni i rywun roi rhywbeth yn ei baned.
“Mae e mewn coma ac mewn cyflwr difrifol,” meddai ar Twitter.
“Mae meddygon yn dweud bod y tocsin wedi’i amsugno’n gyflymach oherwydd yr hylif poeth.”
Beirniadol o Putin
Mae Alexei Navalny wedi bod yn feirniadol iawn o’r Arlywydd Vladimir Putin ac yn adnabyddus am ryddhau gwybodaeth am rai o wleidyddion a swyddogion o fewn llywodraeth Rwsia.
Mewn cyfweliad gydag Echo Moskvy, dywedodd Ms Yarmysh ei bod yn credu bod yr achos honedig o wenwyno wedi’i gysylltu ag ymgyrch etholiad rhanbarthol eleni.
Dywedodd Vyacheslav Gimadi, cyfreithiwr gyda sefydliad Mr Navalny, fod y tîm yn gofyn i bwyllgor ymchwilio Rwsia agor ymchwiliad troseddol.
“Does dim dwywaith i Navalny gael ei wenwyno oherwydd ei safiad gwleidyddol a’i weithgaredd,” meddai’r cyfreithiwr mewn trydariad ddydd Iau.
Dywedodd llefarydd y Kremlin, Dmitry Peskov, bod angen aros am ganlyniadau profion.
Adroddodd yr Asiantaeth Newyddion Gwladol, Tass, nad oedd yr heddlu yn ystyried bod hyn yn achos o wenwyno bwriadol.
Cyfwr difrifol ond sefydlog
Dywedodd Anatoliy Kalinichenko, dirprwy brif feddyg ysbyty Omsk lle mae’r gwleidydd yn cael ei drin, bod yr arweinydd mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog.
Eglurodd fod y meddygon yn ystyried sawl diagnosis, gan gynnwys gwenwyno, ond gwrthododd roi rhagor o fanylion am ei gyflwr.
Fel llawer o wleidyddion gwrthbleidiol eraill yr yn Rwsia, mae Mr Navalny wedi cael ei arestio’n aml gan yr heddlu ac yn 2017, ymosodwyd arno gan sawl dyn a daflodd antiseptig yn ei wyneb, gan niweidio un llygad.
Ymgyrchodd Mr Navalny, yr aelod gwrthbleidiol mwyaf amlwg yn Rwsia, i gael herio Mr Putin yn etholiad arlywyddol 2018, ond cafodd ei wahardd rhag rhedeg.
Digwyddiadau blaenorol
Y llynedd, tra yn y carchar rhuthrwyd Alexei Navalny i’r ysbyty ar ôl dioddef effeithiau alergedd ond mae rhai yn dadlau iddo gael ei wenwyno tra yn y carchar.
Yn 2017, ymosodwyd arno hefyd gan sawl dyn a daflodd antiseptig yn ei wyneb, gan niweidio un llygad.
Lleisiodd gweddw Alexander Litvinenko, yr asiant o Rwsia a laddwyd yn Llundain gan wenwyn ymbelydrol yn 2006, bryderon y gallai gelynion Mr Navalny o fewn Rwsia fod wedi penderfynu ei bod yn amser defnyddio “tacteg newydd”.