Mae Coleg Cambria yn dweud eu bod wrth law i gefnogi disgyblion sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU Heddiw (dydd Iau, Awst 20).
Maen nhw’n awyddus i unrhyw un sy’n poeni am eu graddau wybod fod staff ar gael i drafod yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau galwedigaethol sydd ar gael ar safleoedd y coleg yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi.
“Mae gennym ni gymaint o gyfleoedd i bobl o bob oed, o Safon Uwch i ddetholiad helaeth o raglenni technegol, galwedigaethol, prentisiaethau a mwy,” meddai’r Pennaeth Sue Price wrth ddweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd i’r coleg.
“Yn bwysicaf oll, rydym yn barod i siarad ag unrhyw un sydd eisiau trafod eu dyfodol – p’un a ydyn nhw’n bwriadu mynychu Coleg Cambria neu’n edrych ar opsiynau eraill – gan fod gennym dîm anhygoel o ddarlithwyr a staff cymorth yma a all eich helpu chi ar y ffordd i’ch gyrfa yn y dyfodol. ”
Amser heriol
Dywedodd Simon Woodward, Pennaeth Canolfan Chweched Dosbarth Iâl, eu bod yn anelu at helpu darpar ddysgwyr ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn “amser heriol” iddyn nhw.
“Nid oedd disgyblion blwyddyn 11 yn gallu sefyll eu harholiadau oherwydd Covid-19 a bu ansicrwydd ynghylch sut y byddent yn cael eu graddio, ond diolch byth fod y mater hwnnw wedi’i ddatrys bellach,” meddai.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at siarad â’r bobl ifanc sy’n bwriadu ymuno â ni fis nesaf ac rydym yma i I helpu unrhyw un sydd angen cyngor.”
Dewisiadau eraill
I’r rhai nad ydyn nhw’n bwriadu dilyn y llwybr o TGAU i Lefel A, mae yna lawer o opsiynau eraill ar gael yn Cambria, yn ôl Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol, Alex Thomas.
“Rydyn ni’n arweinydd mewn sgiliau a hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau a chyrsiau technegol a dysgu yn y gwaith, sy’n cael ei adlewyrchu yn ein llwyddiant blynyddol yng nghystadleuaeth WorldSkills,” meddai.
“Gyda’n partneriaethau efo diwydiant a’n enw da mewn sawl sector mae cyfleoedd i bawb yma yng Ngholeg Cambria, felly cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.”