Mae Menter Iaith Môn yn dechrau ar fenter newydd i ddiogelu enwau Cymraeg yr Ynys.
Fel rhan o’r ymdrech gynyddol i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg ar Wicipedia, mae Menter Iaith Môn yn cychwyn prosiect i ddiogelu enwau traethau ac afonydd Ynys Môn er mwyn iddyn nhw gael eu cadw ar gof, am byth, yn ogystal â’u ‘croesawu i ddefnydd newydd, digidol.’
Gan fod y Gymraeg a’r traethau yn drysor i bobl yr Ynys, ac i nifer o ymwelwyr hefyd, mae Menter Iaith Môn yn credu ei bod hi’n bwysig eu bod nhw’n cyflwyno’r enwau Cymraeg i’r ymwelwyr, a bod yr ynganiad ar gael i’w dysgu ar y we.
“Gyda mwyfwy o bobl yn dewis treulio’u gwyliau ym Mhrydain, rydym yn ymwybodol iawn fod traethau’r Ynys yn cynnig noddfa i sawl un sy’n dymuno cael ’chydig ddyddiau i ffwrdd,” Esboniodd Nia Thomas, Prif Swyddog Menter Iaith Môn.
“Drwy ddylanwad trwm y cyfryngau cymdeithasol, mae’r enwau Saesneg yn cael eu poblogeiddio ar y traethau hyn, Silver Bay, Cable Bay, Newborough Beach i enwi rhai. Drwy gofnodi’r enwau Cymraeg yn ddigidol, rydym yn gwneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i’n hymwelwyr, ac mae’n gam ymarferol allwn ni fel siaradwyr Cymraeg ei wneud i annog y defnydd o’r enwau hyn.”
Lansio WiciMôn
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017 lansiwyd cynllun WiciMôn, a gosodwyd her i recordio lleisiau pobl o bob cwr o Gymru yn ynganu eu pentrefi genedigol yn eu hacenion eu hunain. Casglwyd y data er mwyn cael ei roi ar y gwyddoniadur agored Wicipedia a’u bwydo i mewn i’r erthyglau perthnasol.
Defnyddiwyd y data hwn, yn ystod cyfnod y clo, gan Dafydd Elfryn i greu map rhyngweithiol o Gymru yn amlygu’r enwau hyn.
“Pan ddes i ar draws y casgliad recordiau yma ar Wicipedia, nes i feddwl yn syth bysa trosi’r enwau llefydd yn fap rhyngweithiol yn gwneud prosiect bach diddorol,” meddai Dafydd Elfryn.
“Gan gyfuno’r enwau hefo data Agored gan yr Ordnance Survey, mi nes i fapio enwau Môn a Gwynedd yn gyntaf. Ar ôl rhannu’r map ar Twitter a Facebook, daeth sawl sylw yn canmol y data llais, ac yn dweud pa mor ddefnyddiol oedd o.
“Mi wnaeth hynna fy sbarduno i fapio gweddill y lleisiau er mwyn llenwi’r map. Mae’r ymateb wedi bod yn grêt, gyda phobl Cymraeg, dysgwyr a phobl ddi-gymraeg, yn diddori mewn clywed sut mae llefydd i fod i swnio.”
Fel rhan o’r prosiect newydd, mae WiciMôn yn gofyn am gyfraniadau trigolion lleol i recordio enwau’r traethau ac afonydd, er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.