Mae Ofcom wedi diddymu trwydded Sianel Deledu CGTN o China.
Dywedodd y rheoleiddiwr ei fod wedi darganfod nad oedd gan CGTN unrhyw oruchwyliaeth olygyddol o allbwn y sianel – sy’n ofyniad cyfreithiol ar gyfer dangos cynnwys sianel newyddion ym Mhrydain.
Roedd CGTN wedi gofyn am gael trosglwyddo ei drwydded i ddarlledu ym Mhrydain i Gorfforaeth Rhwydwaith Teledu Byd-eang Tsieina (CGTNC), sy’n cael ei reoli gan y corff Teledu Canolog China.
Fodd bynnag, mae Teledu Canolog China yn cael ei reoli gan y Blaid Gomiwnyddol yn China ac ni chaniateir i sianeli gael eu rheoli gan bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain.
Dywedodd Ofcom fod CGTNC wedi methu â darparu unrhyw dystiolaeth i brofi nad oedd Plaid Gomiwnyddol China gyda rheolaeth dros y sianel.
“Rhoi nifer o gyfleoedd i CGTN gydymffurfio”
“Dangosodd ein hymchwiliad fod y drwydded ar gyfer Rhwydwaith Teledu Byd-eang China yn cael ei chadw gan endid sydd heb reolaeth olygyddol dros ei raglenni,” meddai Ofcom mewn datganiad.
“Ni allwn gymeradwyo’r cais i drosglwyddo’r drwydded i Gorfforaeth Rhwydwaith Teledu Byd-eang China oherwydd ei bod yn cael ei rheoli yn y pen draw gan y Blaid Gomiwnyddol China – dydy cyfraith darlledu’r Deyrnas Unedig ddim yn caniatau hynny.
“Rydym wedi rhoi nifer o gyfleoedd i CGTN gydymffurfio, ond nid ydyn nhw heb wneud hynny.”
Yn ôl bwrdd golygyddol CGTN mae penderfyniad Ofcom yn dangos ymdeimlad gwrth-Chineaidd.
Cyhuddodd CGTN y rheoleiddiwr hefyd o gael gwared ar y cyfle i bobol wylio, darllen a chlywed adroddiadau newyddiadurol teg a chytbwys.