Mae lleidr wnaeth daro dyn 66 oed ar gefn ei ben gyda morthwyl cyn disgyn i gysgu yn ei dŷ wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd.
Cafodd Ian Curtis, 48, o Llwynypia, ei arestio gan swyddogion ar ôl i’w ddioddefwr lwyddo i hysbysu ei gymdogion.
Roedd Curtis wedi malu drws patio i gael mynediad i dŷ’r dioddefwr 66 oed ar Heol Llanilltud, Pontypridd, yn oriau mân Medi 19, 2020.
Roedd y dioddefwr, a oedd wedi bod yn cysgu i fyny’r grisiau, newydd godi i fynd a’i gi am dro, pan gafodd ei daro’n anymwybodol ar gefn ei ben.
Pan ddeffrodd roedd Ian Curtis yn mynnu cael ei arian a goriadau ei gâr cyn gorchymyn iddo fynd i fyny’r grisiau.
Dywedodd wrtho ei fod wedi cael ei dalu £4,500 gan rywun i’w ladd, ond na fyddai’n gorfod gwneud hynny pe bai’n cael yr arian ganddo.
Rhoddodd y dioddefwr ei waled, cerdyn banc a’i rif pin iddo.
Ar ôl hynny, taniodd Ian Curtis sigarét, cyn disgyn i gysgu gan roi’r cyfle i’w ddioddefwr ddianc.
Ceisiodd alw 999 ond sylweddolodd fod ei linellau ffôn wedi cael eu torri, felly rhedodd at ei gymydog, wnaeth ffonio’r heddlu.
Daeth swyddogion o hyd i Ian Curtis yn cysgu mewn ystafell wely i fyny’r grisiau a cafodd ei arestio a’i gymryd i’r ddalfa.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Plediodd Ian Curtis yn euog i fyrgleriaeth waethygedig a chafodd ei garcharu am 11 mlynedd ac 8 mis yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun (Ionawr 22).
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Hicks: “Roedd hwn yn drosedd erchyll a chreulon, ac mae’r math yma o drosedd yn eithriadol o brin.
“Wedi’i ysgogi gan gyffuriau, dangosodd Curtis ddim trugaredd i’w ddioddefwr a gallai fod wedi’i ladd yn hawdd iawn gyda’r ergyd.
“Mae’n unigolyn peryglus iawn a fydd nawr yn treulio cryn dipyn o amser yn y carchar am ei drosedd.”