Mae teyrngedau wedi eu rhoi i un o hoelion wyth Plaid Cymru yng Nghaerffili a fu farw’n ddiweddar.

Disgrifiwyd Menna Battle gan y cyn-Aelod Cynulliad ac arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel “rhyfelwraig fwyn” a roddodd oes o wasanaeth i’w chymuned.

Yn wreiddiol o bentref Glyn Nedd, fe gadwodd gysylltiad agos gyda bro ei mebyd ar hyd ei hoes tra’n byw ac yn gweithio yng Nghaerffili.

‘Cenedlaetholwraig falch’

“Yn genedlaetholwraig falch ac angerddol, fe daflodd ei hun i’r achos,” meddai Lindsay Whittle.

“Hi fu Ysgrifennydd Cangen Penyrheol a gwasanaethodd yn ysgrifennydd yr Etholaeth am 17 o flynyddoedd.

“Cafodd ei hethol i Gyngor Cymuned Penyrheol gan wasanaethu’i chymuned heb ddal dim yn ôl.”

Ar ôl ymddeol fe symudodd i fyw i Abertridwr gan weithio fel ysgrifennydd cangen Plaid Cymru yno a chael ei hethol i Gyngor Cymuned Cwm Aber.

“Ni fyddai’n hanner digon i ddweud ei bod yn gweithio yn ei chymuned,” ychwanegodd Lindsay Whittle.

“Fe elwodd clybiau llyfrau, Clwb Celf Cwm Aber… o’i gwaith diflino.

“Ymladdodd yn ddewr yn erbyn Parkinsons yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd… tyfiant ar yr ymennydd achosodd i Menna golli ei brwydr, ac fe gollon ni yng Nghymru arwres.

“Rhoddodd hi gymorth a chalondid i mi drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, a byddaf yn ei dyled am byth.”