Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am rew mewn 15 o siroedd Cymru yn y de a’r canolbarth.
Mae rhybudd melyn am rew mewn lle o hanner nos, nos Wener tan naw bore dydd Sadwrn, Chwefror 6.
Rhybuddiwyd y gallai ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin arwain at anafiadau i bobol.
Mae’r rhybudd tywydd diweddaraf yn cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Bro Morgannwg.
Yn gynharach yr wythnos hon achosodd eira drafferthion i bobol ar draws Cymru.
⚠️Mae'r @metoffice wedi cyhoeddi rhybudd melyn o rew /iâ ar gyfer y de a'r canolbarth, yn ddilys o 00:00 Sad – 09:00 Sad.#S4CTywydd #weatherwarning #metoffice pic.twitter.com/Gmpx8kUlmf
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) February 5, 2021