Mae gwyddonwyr yn rhybuddio nad yw canllawiau presennol llywodraeth Prydain i deithwyr awyrennau yn ddigonol er mwyn atal lledaeniad Covid-19.

Dangosodd arolwg gan Brifysgolion Bangor, Caerdydd a Gorllewin Awstralia ar y cyd fod anwybodaeth ddybryd ymysg y cyhoedd ynghylch y risigiau cysylltiedig â theithio mewn awyrennau.

Ar ôl holi dros 2000 o bobl ledled Prydain fis Hydref y llynedd, daeth i’r amlwg fod yr anwybodaeth ar ei gwaethaf ymysg dynion ifanc, gan arwain at ofnau y gallai llawer o unigolion ddychwelyd i Brydain yn dioddef o Covid-19 heb sylweddoli hynny.

Ar ben hyn, dywedodd 21% o’r ymatebwyr y bydden nhw’n teithio’n ôl i Brydain hyd yn oed pe bai ganddyn nhw symptomau Covid-19, gyda llawer yn dweud na fydden nhw’n cydymffurfio’n llawn â chanllawiau hunan-ynysu’r llywodraeth ar ôl dychwelyd.

Dywedodd yr Athro Davey Jones, Athro Gwyddorau Pridd a’r Amgylchedd Prifysgol Bangor, a oedd yn arwain y gwaith:

“Mae ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru yn cefnogi gosod canllawiau llymach ledled y Deyrnas Unig i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â phrofion yn y man ymadael a threfniadau cwarantin llymach ar ôl cyrraedd i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd o dramor.

“Hefyd, rydym yn argymell y dylid targedu’r canllawiau llymach at grwpiau oedran iau lle mae’r risg o ddiffyg cydymffurfio yn fwy.

“Nid yw hyn yn newyddion gwych i’r rheini sy’n awyddus i fynd ar wyliau tramor, ond yn seiliedig ar yr angen i reoli risg, dyma fyddai’r ffordd orau ymlaen i osgoi tonnau pellach o’r haint yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y dylai dinasyddion Prydain orfod dilyn yr un rheolau â thramorwyr sy’n dod yma. Daw hyn wrth i’r llywodraeth gyflwyno cwarantîn gorfodol mewn gwestyau am gyfnod o 10 diwrnod i ymwelwyr o wledydd penodol o 15 Chwefror.

”Dw i’n cytuno’n llwyr y dylid cadw gwladolion tramor mewn gwestyau,” meddai. “Y cwestiwn allweddol yw a ddylem roi gwladolion y Deyrnas Unedig sy’n dychwelyd o dramor mewn gwestai hefyd – rwy’n credu y dylem wneud hynny ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. ”