Mae siop mewn pentref glan-môr yng Ngwynedd wedi cael gorchymyn i gau ar ôl methu â chydymffurfio â rheolau diogelwch rhag Covid-19.
Dywed Cyngor Gwynedd nad oedd y rhai a oedd yn gyfrifol am siop Mini-mart Fairbourne ym Meirionnydd wedi rhoi mesurau rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r haint.
Fe ddaeth hyn i’r amlwg mewn ymweliad diweddar ar y cyd gan swyddogion y Cyngor a’r heddlu, er gwaethaf rhybuddion blaenorol gan y Cyngor.
Yn ôl y Cyngor, roedd y diffygion yn cynnwys:
- Dim arwyddion wrth y fynedfa i ddweud wrth bobl am wisgo mwgwd
- Dim cyfleuster diheintio dwylo
- Dim marciau nac arwyddion i gyfarwyddo pobl i gadw pellter
- Dim sgrin amddiffyn i weithwyr y siop wrth y til.
O ganlyniad, cafodd Rhybudd Cau Safle ei weithredu ddoe, dydd Gwener 5 Chwefror, a bydd yn dal mewn grym hyd ddydd Gwener 19 Chwefror, os na fydd y busnes wedi cydymffurfio cyn hynny.
“Yn anffodus, mae’r busnes Mini-mart yn Fairbourne wedi diystyru’r cyngor a’r rhybuddion a roddwyd iddyn nhw,” meddai’r Cynghorydd Gareth Griffith Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.
“Mae ein staff wrth law i gynnig help ac arweiniad i fusnesau, ond yn syml ni allwn anwybyddu achosion pan fydd siopau fel yr un yma yn gwrthod chwarae eu rhan i gadw pobl yn ddiogel.”
Rhybuddiodd y Prif Arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu Gogledd Cymru y bydd yr heddlu’n parhau i gynnal ymweliadau ar y cyd â Chyngor Gwynedd i sicrhau bod pob busnes yn cydymffurfio gyda rheolau Coronafeirws.
“Mae’n bwysig cofio bod busnesau’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu i atal yr haint rhag lledaenu a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gadw ein cymunedau’n ddiogel,” meddai.