Mae cyfraddau coronafeirws yng Nghymru yn dal i ostwng yn raddol, wrth i 34,000 yn rhagor o bobl gael eu brechu ddoe – y nifer mwyaf mewn un diwrnod hyd yma.

Mae’r gyfradd 7-diwrnod bellach yn 123 i bob 100,000 o’r boblogaeth yn ôl y ffigurau diweddaraf, o gymharu â 650 ychydig wythnosau’n ôl.

Er hyn, mae’r cyfraddau mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn y gogledd, yn fwy na dwbl hynny, ac mae meddygon yn rhybuddio fod ysbytai o dan bwysau aruthrol.

Cafodd 675 o achosion newydd o’r feirws eu cadarnhau yn ystod y cyfnod 24-awr diwethaf, a bu farw 49 yn rhagor o gleifion, gan godi cyfanswm y marwolaethau i 4,961.

Brechu

Mae’r nifer sydd wedi derbyn eu brechiad cyntaf wedi codi i 556,997, ac mae 2,471 o bobl wedi cael dau ddos.

Mae hyn yn gynnydd o 34,000 ar y diwrnod cynt – ac mae 84.7% o bobl dros 80 wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, ynghyd â 78.2% o drigolion cartrefi gofal ac 81.5% o staff cartrefi gofal.

 

Dros hanner miliwn o bobol bellach wedi’u brechu yng Nghymru

Huw Bebb

A phlant 3 i 7 oed i ddychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor, ar 22 Chwefror