Mae’r heddlu yn ne Lloegr yn ymchwilio ar ôl i rai o gytiau traeth drutaf Prydain gael eu llosgi yn ystod y nos.

Cafodd tri eu rhoi ar dân, a thorrwyd i mewn i 30 arall mewn digwyddiad yn Hengistbury Head yn swydd Dorset.

Nid oedd neb yn y cytiau ar y pryd a chafodd neu eu hanafu.

Mae’r cytiau traeth, sy’n cynnig golygfeydd trawiadol o arfordir Dorset, yn denu prisiau o hyd at £300,000 pan maen nhw’n cael eu gwerthu.