Ni ddylai Donald Trump gael manteisio ar freintiau arferol cyn-arlywyddion America i dderbyn cudd-wybodaeth cyfrinachol y wladwriaeth.
Dyna yw barn bendant yr Arlywydd Joe Biden, sy’n pryderu am “ymddygiad anwadal” Donald Trump ac yn dadlau nad oes angen iddo gael gwybodaeth o’r fath.
“Pa werth yw ei briffio mewn cudd-wybodaeth?” meddai. “Pa effaith mae’n ei gael o gwbl, heblaw’r ffaith y gall roi ei droed ynddi a dweud rhywbeth?”
Dywedodd llefarydd ar ran y Ty Gwyn fod hawl Donald Trump yn y cyswllt hwn yn rhywbeth sy’n cael ei adolygu. Daw hyn ar ôl i amryw o wleidyddion a gweision sifil fynegi amheuon am ddoethineb ei gynnwys mewn briffiadau cyfrinachol.
Mae pryderon penodol am ei fuddiannau busnes dramor ac am ei ddyledion ac y gallai yn sgil hynny fod yn agored i fygythiadau gan wasanaethau cudd gwledydd eraill.