Mae 523,042 o bobol wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn y coronafeirws, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru funudau cyn i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, gynnal cynhadledd i’r Wasg i gyhoeddi y byddai plant 3 i 7 oed yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor.
“Mae’r broses o frechu yng Nghymru wedi cyflymu yn aruthrol, ac mae Cymru bellach yn brechu mwy ar gyfartaledd nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig”, meddai Kirsty Williams.
A dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones, fod yno “gwymp sylweddol a chyson” yn nifer wythnosol yr achosion newydd yng Nghymru.
“Rydym wedi dod i lawr yn sylweddol o’r uchafbwynt o 650 o achosion i bob 100,000 o bobol, i tua 127 o achosion heddiw,” meddai Dr Jones.
“Mae achosion bellach yn is nag ar adegau blaenorol pan oedd ysgolion yn gwbl agored.
“Mae hyn yn galonogol iawn, yn enwedig o ystyried presenoldeb yr amrywiolyn newydd, ac mae’n ganlyniad i ymdrechion ac aberth pawb dros y saith wythnos diwethaf.”
Plant 3 i 7 oed i ddychwelyd i’r ysgol o 22 Chwefror
Bydd y plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd, rhwng tair a saith oed, yn dychwelyd i’r dosbarth ar ôl hanner tymor, sef ar Chwefror 22.
Dywedodd Kirsty Williams: “Yn anffodus, nid ydym mewn sefyllfa i ddychwelyd pob disgybl yn ôl i’r ysgol.
“Fodd bynnag, diolch i bobol sy’n dilyn ein rheolau cenedlaethol, mae digon o le i ni ddod â rhai o’n dysgwyr yn ôl mewn ffordd raddol, hyblyg a blaengar.
“Ar ôl hanner tymor, o 22 Chwefror, bydd ein dysgwyr Cyfnod Sylfaen [plant 3 i 7 oed] yn dechrau dychwelyd i’r ysgol.”
Mae’r dysgwyr ieuengaf wedi cael blaenoriaeth am eu bod yn ei chael hi’n anodd dysgu o bell, ac mae risgiau trosglwyddo yn is, yn ôl Kirsty Williams.
Dywedodd Ms Williams o 22 Chwefror y byddai niferoedd bach o ddysgwyr galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaid, hefyd yn dychwelyd.
“Unwaith eto, mae hyn oherwydd anawsterau gyda dysgu o bell, gan y bydd angen iddynt gael mynediad at hyfforddiant neu amgylcheddau yn y gweithle er mwyn ymgymryd â’u cymwysterau ymarferol,” meddai.
£5m ychwanegol i gadw ysgolion yn sâff
Bydd £5m o arian ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i fuddsoddi ymhellach mewn cyfarpar sydd ei angen arnyn nhw i gadw eu hadeiladau’n ddiogel.
“Byddwn yn cyhoeddi amryw o fesurau ychwanegol i sicrhau diogelwch staff wrth iddyn nhw ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’r rhain yn cynnwys profi staff ddwywaith yr wythnos a darparu rhagor o arian ar gyfer mygydau newydd.
“Bydd £5m yn cael ei roi i gefnogi ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol i fuddsoddi ymhellach mewn sicrhau diogelwch eu hadeiladau.”
Ond pwysleisiodd y Gweinidog ei bod hi’n “bwysig bod pob athro, disgybl, rhiant a gofalwr yn dilyn y canllawiau fel bod pawb yn ddiogel.”
“Rydym yn clywed dro ar ôl tro fod ein safleoedd addysg yn ddiogel, ond y gweithgareddau ychwanegol o’u cwmpas sy’n cyfrannu at y rhif R,” meddai.
“Felly mae’n rhaid i mi erfyn ar bob dysgwr, rhiant a gofalwr – parhewch i ddilyn y canllawiau.”
Ymateb yr undebau
Cafwyd ymateb cymysg i’r cyhoeddiad – gyda’r rhan fwyaf o undebau’n rhoi croeso gofalus.
Fodd bynnag, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, bod aelodau’n “siomedig iawn” bod y penderfyniad wedi ei wneud “tra bod gormod o gwestiynau heb eu hateb”.
Dywedodd: “Nid ydym wedi cael y rhesymeg dros y penderfyniad hwn na thystiolaeth wyddonol ddiffiniol i gefnogi’r hyn a ystyriwn yn ailagor ysgolion brysiog a rhy gynnar.”
Croesawodd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) y cyhoeddiad bod £5 miliwn o arian ychwanegol i’w wario ar gyfarpar i ddiogelu athrawon – ond maen nhw yn parhau i bwyso am gael gwybod pryd y bydd athrawon a staff eraill yr ysgolion yn cael eu brechu.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC:
“Mae’n gam positif bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf sy’n caniatáu i blant y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd. Rydym yn croesawu’r ffaith bod mesurau ychwanegol wedi’u crybwyll i leihau risgiau ymhellach gan gynnwys profi cyson i staff a buddsoddiad mewn cyfarpar ac addasiadau.
“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pryder gwirioneddol gan athrawon y Cyfnod Sylfaen wrth iddynt ystyried dychwelyd, ac rydym yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion i ystyried y sefyllfa leol yn llawn cyn ystyried eu cynlluniau i ddychwelyd yn bwyllog ac yn ddoeth. Rydym yn annog ysgolion i ystyried dychwelyd graddol, hyblyg, wedi’i gynllunio.
“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraethau San Steffan a Chymru i ddatgan sut a phryd byddant yn rhoi blaenoriaeth o ran brechu staff ysgolion er mwyn sicrhau parhad addysg ein plant.”
A dywedodd uwch swyddog Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru, Gareth Lloyd, bod Ms Williams wedi cymryd “ymagwedd synhwyrol” wrth ganiatáu dychweliad hyblyg ar ôl hanner tymor.
Dywedodd Mr Lloyd: “Rydym wedi bod yn glir, credwn y dylid defnyddio o leiaf dri diwrnod cynllunio ar ôl hanner tymor, heb ddysgwyr yn yr ysgol, i roi amser i addysgwyr helpu i wneud y cynlluniau angenrheidiol ar gyfer dychwelyd yn ddiogel.
“Mae ein haelodau am weld dychweliad ehangach mewn amgylchedd gwaith diogel ac rydym yn disgwyl trafodaethau yr wythnos nesaf gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mesurau lliniaru cadarn yn cael eu rhoi ar waith.”
‘Nid yw’r trafod ar ben’
Yn ddiweddarach, wrth ymateb i bryderon yr undebau, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod ganddynt bythefnos i weithio gyda’r Llywodraeth i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
“Lle mae cynnydd pellach y gallwn ei wneud i wneud hyd yn oed mwy i roi hyder i bobl ac i sicrhau bod pethau mor ddiogel ag y gallant fod, yna wrth gwrs byddwn yn parhau i wneud hynny,” meddai.
“Fe gyrhaeddon ni cyn belled ag y gallen ni wneud erbyn heddiw, ac er mwyn rhoi’r amser oedd ei angen [i athrawon baratoi], roedden ni’n gwybod bod yn rhaid inni wneud cyhoeddiad.
“Ond nid yw hynny’n golygu bod y trafod ar ben.”
Beth am blant hŷn?
Wrth drafod grwpiau oedran hŷn, dywedodd Mark Drakeford y bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn ceisio cymysgu addysgu wyneb yn wyneb â gwersi ar-lein pan fydd plant hŷn yn cael dychwelyd i ystafelloedd dosbarth.
Dywedodd Mr Drakeford: “Byddwn am geisio rhoi cymaint o sicrwydd ag y gallwn i’r proffesiwn, a’r rhieni yn enwedig, ynglŷn â beth fyddai’n digwydd pan fyddwn mewn sefyllfa i fynd ymhellach.
“Ni fydd hynny’n golygu, o reidrwydd, dychwelyd pob plentyn, bob dydd, i’r ystafell ddosbarth. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni fod yn fwy hyblyg na hynny a cheisio cyfuno cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag y gallwn gyda phwyslais parhaus ar ddiogelwch a lles.”