Mae profiad chwaraewyr Cymru am fod yn ffactor allweddol yn y gêm ddi-dyrfa yn erbyn Iwerddon yfory, yn ôl yr hyfforddwr cynorthwyol Neil Jenkins.
Ar ôl tymor siomedig y llynedd, mae Wayne Pivac wedi dewis tîm hynod o brofiadol, sydd â chyfanswm o 874 o gapiau rhyngddyn nhw, ar gyfer gêm gyntaf tymor y chwe gwlad.
Fe fydd Cymru’n dychwelyd i Stadiwm Principality am y tro cyntaf ers bron i 12 mis ar ôl chwarae eu gemau cartref ym Mharc y Scarlets.
“Mae’r cyfan ar y lein yfory, ac mae angen inni wneud yr hyn a allwn a mynd â’r gêm i Iwerddon y gorau y gallwn,” meddai Neil Jenkins.
“Mae llawer o brofiad drwy’r holl dîm. Mae’r bechgyn wedi gweld llanw a thrai drwy gydol eu gyrfaoedd.
“Maen nhw’n amlwg wedi gweld y gwaelodion, ac maen nhw wedi gweld yr uchelfannau.
“Os na fydd pethau’n digwydd fel y dylen nhw, maen nhw fel pe baen nhw’n ail-grwpio ac ailgychwyn. Maen nhw’n tueddu i wneud hynny’n eithaf da.”
Blwyddyn wael
Cafodd Cymru ymgyrch wael yng Nghwpan Hydref y Gwledydd, gan ddod yn bumed fel y gwnaethon nhw yn y Chwe Gwlad y llynedd.
Dyw eu hanes diweddar yn erbyn Iwerddon ddim o’u plaid chwaith, ar ôl colli chwe gêm yn olynol iddyn nhw, gan gynnwys cweir o 32-9 yn Nulyn dri mis yn ôl.
“Rhaid inni wneud yn well – does dim amheuaeth o hynny,” meddai Neil Jenkins.
“Roedden ni’n siomedig yn yr hydref ond dw i’n meddwl fy mod i wedi gweld gwahaniaeth dros y pythefnos ddiwethaf, a dw i’n meddwl ein bod ni ar lefel wahanol.
“Fe fyddwn ni’n chwarae gartref yn erbyn tîm da iawn, ac mae’r chwaraewyr yn sylweddoli hynny.
“Mae’r hanes y tu ôl i’r Chwe Gwlad yn anhygoel. Mae llawer o’r bechgyn wedi’i ennill o’r blaen ac roeddent yn chwarae ddwy flynedd yn ôl pan enillon ni’r Gamp Lawn.
“Dw i’n gwybod y bydden nhw wrth eu bodd yn ennill eto, ac mae momentwm yn beth mawr iawn yn y twrnament hon a gall ennill eich gêm gyntaf fod yn hwb mawr ichi.”
Mae’n cyfaddef y bydd yn nerfus yfory – fel y mae bob tro mae Cymru’n chwarae.
“Mae’n gêm fawr, yn gêm brawf fawr. Dw i eisiau i Gymru wneud yn dda a dw i eisiau i Gymru ennill – fydd hynny byth yn newid imi.”