Bu’n rhaid i Wrecsam fodloni ar un pwynt y pnawn yma, ar ôl i ddwy gôl hwyr gan Dagenham sicrhau gêm gyfartal iddyn nhw.

Rhoddodd Jamie Reckord Wrecsam ar y blaen wrth sgorio hanner awr ar ôl cychwyn y gêm, ac fe wnaeth Reece Hall-Johnson ddyblu mantais y tîm cartref hanner awr yn ddiweddarach.

Roedd y Dreigiau Coch ar y ffordd i fuddugoliaeth glir, ond lai na chwarter awr cyn y diwedd, sgoriodd Matt Robinson dros yr ymwelwyr, cyn i gôl gan Dean Rance unioni’r sgôr bum munud i mewn i’r amser ychwanegol.