Llwyddodd Casnewydd i guro’r ymwelwyr Grimsby er iddyn nhw orfod chwarae am 53 munud gyda dim ond 10 chwaraewr.

Nicky Maynard, a ddaeth ar fenthyciad i Gasnewydd ddydd Llun, a achubodd y dydd iddyn nhw yn ei gêm gyntaf. Llwyddodd y chwaraewr 34 oed i sgorio’r gôl fuddugol wedi 51 munud.

Roedd hyn ar ôl i Gasnewydd fynd i lawr i 10 dyn am y pedwerydd tro mewn pum gêm, wedi i Scot Bennett gael cerdyn coch am ruthro ar Stefan Pay yn y 37fed munud.

Mae Casnewydd wedi llithro o frig y tabl ddechrau’r flwyddyn i’r seithfed safle, ar ôl rhediad o naw gêm heb fuddugoliaeth. Y tro diwethaf iddyn nhw ennill gêm oedd pan wnaethon nhw guro Grimsby 2-0 ar Ragfyr 8.