Llwyddodd Caerdydd i guro Bryste 2-0 yn Ashton Gate y pnawn yma gan roi ergyd i obeithion y tîm cartref o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn y 18fed munud gyda chic rydd gan Harry Wilson. Yn sgil amddiffyn gwael gan y tîm cartref, dyblu a wnaeth mantais yr ymwelwyr ychydig funudau’n ddiweddarach, wrth i Kieffer Moore benio’i 11fed gôl y tymor hwn.

Am weddill y gêm amddifynnodd Caerdydd yn gryf heb ymddangos ar unrhyw adeg fel pe baen nhw am ildio.

Dyma’r drydedd gêm yn olynol i Bristol City ei cholli, ac o ystyried safon eu chwarae y pnawn yma, pylu mae eu siawns o gyrraedd y gemau ail gyfle.