Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Ezra Moseley, cyn-fowliwr cyflym tîm criced Morgannwg, sydd wedi marw’n 63 oed yn dilyn gwrthdrawiad ger ei gartref ar ynys Barbados.

Mae Morgannwg yn dweud iddyn nhw gael “sioc” yn dilyn marwolaeth eu chwaraewr tramor rhwng 1980 a 1986.

Ymunodd e â’r sir yn 22 oed ar ôl creu argraff wrth chwarae i’w glwb yn Barbados ac oni bai am anaf i’w gefn yn ifanc, fe allai fod wedi bod ymhlith goreuon tramor y sir.

Yn ystod ei yrfa, cipiodd e 279 o wicedi ar gyfartaledd o 23 mewn gemau dosbarth cyntaf.

Cipiodd e saith wiced yn ei gêm gyntaf i Forgannwg yn erbyn Essex yn Abertawe yn 1980, gan orffen y tymor â 51 o wicedi dosbarth cyntaf, a 52 y tymor canlynol ar gyfartaledd o 18, tymor pan gipiodd e hatric mewn gêm undydd yn erbyn Caint.

Daeth ei awr fawr i Forgannwg yn 1981 pan gipiodd e chwe wiced am 23 yn erbyn Awstralia.

Ond ar ôl cael llawdriniaeth ar ei gefn yn 1982, wnaeth e ddim cyrraedd ei orau eto, ac fe gafodd ei le yn nhîm Morgannwg ei gymryd gan un arall o’r Caribî, Winston Davis.

Ar ôl cyfnod yn chwarae yng nghynghreiriau Swydd Gaerhirfryn a sawl taith answyddogol i Dde Affrica gydag India’r Gorllewin, dychwelodd e i Gymru yn 1986 a chwarae mewn chwe gêm i Forgannwg yn absenoldeb y batiwr o Bacistan, Javed Miandad.

Cipiodd e 114 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 35 o gemau i Forgannwg ar gyfartaledd o 24, ac fe wnaeth e daro pedwar hanner canred gyda’r bat, gan gynnwys ei sgôr gorau o 70 heb fod allan yn erbyn Caint yng Nghaergaint yn 1980.

Chwaraeodd e i India’r Gorllewin am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn y Caribî yn 1989/90, gan ymuno â Curtley Ambrose, Ian Bishop a Courtney Walsh a thorri llaw batiwr Lloegr Graham Gooch oherwydd ei gyflymdra.

Chwaraeodd e mewn naw gêm undydd dros India’r Gorllewin cyn ymddeol.

Teyrngedau

“Mae pawb yng Nghlwb Criced Morgannwg wedi cael sioc ac yn drist o glywed y newyddion erchyll am farwolaeth drasig Ezra,” meddai Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg.

“Roedd e’n fowliwr gwych ac oni bai am anaf difrifol i’w gefn yn gynnar yn ei yrfa, fe fyddai wedi herio bowlwyr gwych India’r Gorllewin yn y 1980au a’r 1990au am le cyson yn eu tîm.

“Roedd Ezra yn aelod hynod boblogaidd o’n hystafell newid, fel yr oedd e mewn sawl ystafell newid arall yn y byd criced.

“Byddwn oll yn teimlo ei golled yn fawr ac mae ein meddyliau gyda’i ffrindiau a’i deulu ar yr adeg anodd hon.”

Mae nifer o gyn-chwaraewyr a chlybiau hefyd wedi talu teyrnged iddo.