Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi wfftio agwedd “sut all Cymru fod yn wahanol” y Llywodraeth Lafur yn y Senedd.

Daw ei sylwadau mewn erthygl yn y Sunday Times am ddatganoli a phwerau datganoledig y Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae’n dweud bod rhaglen frechu’r coronafeirws yn dangos “y gorau o Brydain” a bod “rhaid i lywodraethau ledled ein Deyrnas Unedig gydweithio a gwrando ar yr arbenigwyr ond hefyd y cyhoedd”.

Ac mae’n tynnu sylw at bôl gan YouGov sy’n awgrymu bod mwyafrif yng Nghymru am weld “llywodraeth ganolog”, hynny yw Llywodraeth Prydain, yn gosod cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru ac nid gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Unedig

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi Prydain cyfnod heddwch fel erioed o’r blaen ac rydym oll yn unedig wrth eisiau i’r cyfnod clo hwn fod yr un olaf,” meddai.

“Mae’r rhaglen frechu ragorol yn dangos y gorau o Brydain ac yn ein cyflymu ni tuag at sefyllfa lle mae ailgyflwyno rhyddid yn bosibilrwydd go iawn.

“Wrth i ni symud yn ein blaenau, rhaid i lywodraethau ledled ein Deyrnas Unedig gydweithio a gwrando ar yr arbenigwyr ond hefyd y cyhoedd.”

Wrth gyfeirio at bôl YouGov ar bwerau datganoledig, mae’n dweud bod y prif weinidog Mark Drakeford a’i “gynghreiriaid yn y cyfryngau Cymreig” wedi wfftio’r canlyniadau, “gan glochdar am ddata haf diwethaf oedd yn dangos darlun i’r gwrthwyneb”.

“Ond dw i ddim yn byw chwe mis yn ôl,” meddai wedyn.

“Dw i’n byw ac yn arwain yn y presennol.

“Ac mae pethau wedi newid.

“Mae Llafur yn aml yn siarad am “sefyll lan dros Gymru” ond mae’n hen bryd iddyn nhw wrando ar bobol Cymru.

“Mae cip ar safbwyntiau’n dangos bod y cyhoedd eisiau mwy o gydweithio rhwng eu harweinwyr a’r llywodraethau – ac mae’n bryd iddyn nhw gamu i fyny.

“Mae teimladau’r cyhoedd yn deillio o rwystredigaeth o ran yr argraff fod gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae gwleidyddiaeth â bywydau pobol, gyda chomisariaid Llafur yn cyflwyno addasiadau di-angen i’r hyn a ddylai fod yn fframwaith cyffredin ledled y Deyrnas Unedig.

“Cafodd y rhain eu gyrru gan weinidogion sy’n ysu am rym ac sydd ag ysfa afiach i roi eu stamp sosialaidd eu hunain ar y cyfan, o blismona ein troli siopa i gyflwyno cyfyngiadau teithio di-feddwl yn ein cymunedau gwledig.”

Cyfle i ‘ailadeiladu’ Cymru

Ond mae Andrew RT Davies yn dweud bod yna gyfle gyda’r rhaglen frechu i “ailadeiladu” Cymru “mewn ffordd fwy effeithlon”.

“Ac wrth i ni ddod allan yn raddol o’r cyfnod clo, mae’n bwysig cydnabod y ffaith anhepgor fod y mwyafrif o bobol yng Nghymru’n casglu eu newyddion o’r cyfryngau sydd wedi’u lleoli yn Llundain,” meddai.

“Fel arweinydd yr wrthblaid sy’n benderfynol o ddal Llafur Cymru i gyfrif, dydy’r sefyllfa hon fyth yn ddelfrydol, ond dyna’r cae rydyn ni’n chwarae arno a rhaid i weinidogion gamu i fyny yn y modd priodol.”

Mae’n dweud bod rhaid ystyried y dryswch sy’n codi wrth gyflwyno rheolau gwahanol yng ngwledydd Prydain o ran y coronafeirws – “gwahaniaethau sy’n aml iawn heb eu seilio ar wyddoniaeth o gwbl”.

“Er y gall Cymru wneud pethau’n wahanol o dan ddatganoli, ddylai hyn ddim meddwl y dylai Llywodraeth Cymru bob amser wneud pethau’n wahanol,” meddai wedyn.

“Ac yn drist iawn, dydy hi ddim fel pe bai atebion Llafur bob amser wedi cyflwyno canlyniadau gwell.

“Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfraddau marwolaethau ar gyfer Rhagfyr 2020 i fyny 27.4% yng Nghymru o gymharu ag 20.8% yn Lloegr.

“O edrych ar dueddiadau pum mlynedd o ran cyfraddau marwolaethau, roedd y patrwm yng Nghymru yr un mor llwm.

“Dydy Llafur ddim yn cyfateb i’ch cadw chi’n fwy diogel.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrando ac rydym ni am weld safiad ar frwydro’r coronafeirws sy’n gwrthod dull Llafur Cymru o ‘sut all Cymru fod yn wahanol jyst er mwyn bod yn wahanol”.

Beirniadu datganoli

“Yn hytrach, mae’n bryd cydweithio’n well rhwng llywodraethau ac am ddull Un Genedl sy’n cyflwyno cysondeb ar y tiroedd hyn, gan hwyluso cydymffurfiaeth a thorri dryswch,” meddai wedyn.

“Dydy hynny ddim yn golygu y byddai pob penderfyniad gan Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru union yr un fath â’r rhai fyddai’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

“Ond mae’n bryd cael cysondeb mewn meysydd lle mae prif swyddogion meddygol y Deyrnas Unedig yn cytuno’n ddiau, yn hytrach na dyfalbarhau â pholisi’r Athro yn y Bae [Mark Drakeford] o brocio’r prif weinidog [Boris Johnson] yn ei lygad bob cyfle.

“Fel pobol a busnesau ledled Cymru, rydym am dorri’r gwleidyddiaeth a gweld fframwaith cyffredin ar y cyfyngiadau’n cael ei fabwysiadu.

“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn rhoi’r gorau i esgus fod gan y Llywodraeth ym Mae Caerdydd gyfrifoldeb am feysydd nad oes ganddi [gyfrifoldeb amdanyn nhw].”

Mae’n dweud bod yna wahaniaeth yn yr agwedd tuag at bolisïau San Steffan sydd union yr un fath â pholisïau Llywodraeth Cymru, a bod “tawelwch llethol” wrth i’r Llywodraeth Lafur “ddangos ei chyhyrau ymwahanol bythol gynyddol”.

“Doedd sefydlu’r Senedd fyth am fod yn fater o Gymru’n esgus bod ganddi ei Swyddfa Gartref ei hun neu ei Swyddfa Dramor ei hun, gan gyflwyno dirwyon neu gyfyngiadau teithio gwahanol,” meddai wedyn.

“Bob tro mae’r weinyddiaeth Lafur wedi bod yn chwarae ac esgus bod ganddi, mae adnoddau ac egni wedi cael eu dargyfeirio o fan lle gallai polisi wneud gwahaniaeth gwirioneddol, megis cyflwyno brechlynnau yn y modd cywir o’r dechrau ar y cyflymdra rydyn ni’n ei weld ar hyn o bryd.

“Rydym yn gweithio orau fel cenedl pan ydyn ni’n cydweithio fel Cymru gref, o fewn Deyrnas Unedig gref.

“Jyst edrychwch ar raglen frechu syfrdanol Prydain a’i chymharu ag anawsterau ein cyfeillion ar y cyfandir.

“Er mwyn ailadeiladu Cymru, mae angen i ni ddyfalbarhau ar drywydd undod a chydweithio.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hytrach nag yn ei herbyn, ac yn bwysig, gwrando ar bobol Cymru.”