Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi datgelu cynllun ei blaid ar gyfer adferiad Covid-19 a fydd yn creu mwy na 60,000 o swyddi drwy roi hwb i isadeiledd carbon isel.
Mewn cynllun wyth pwynt, sy’n cynnwys syniadau a blaenoriaethau newydd, mae’n canolbwyntio ar “warchod bywoliaethau”.
Mae’n addo adferiad fyddai’n gweld Cymru’n “gweithio’n gynt ac yn fwy clyfar na’r ymateb i’r pandemig”, a chyflogaeth i bobol rhwng 16 a 24 oed, yn ogystal â miloedd o gartrefi gwyrdd newydd a blaenoriaeth i fusnesau bach a chanolig.
Yn ôl Adam Price, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cyflwyno’r mesurau hyn “flynyddoedd yn ôl”.
Economi Cymru’n ’wynebu ei heriau mwyaf ers cenhedlaeth’
“Mae economi Cymru’n wynebu ei heriau mwyaf ers cenhedlaeth,” meddai Adam Price wrth ddatgelu’r cynllun.
“Gyda’r disgwyl y bydd diweithdra’n cyrraedd 120,000 erbyn yr haf, mae angen strategaeth economaidd amgen arnom ar frys a fydd nid yn unig yn creu swyddi ond hefyd yn cefnogi’r miloedd o fusnesau sy’n wynebu mynd yn fethdal o ganlyniad i’r pandemig.
“Byddwn yn dysgu gwersi ac yn sicrhau bod yr adferiad ôl-bandemig yn gweld Cymru’n gweithio’n gynt ac yn fwy clyfar na’r ymateb i’r pandemig – gyda ffocws diflino ar warchod bywoliaethau.
“Mae hon yn gyfres uchelgeisiol ond cyflwynadwy y dylid fod wedi’i chyflwyno flynyddoedd yn ôl pe bai Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos mwy o fyrder wrth adeiladu economi wydn.”
Cynllun Plaid Cymru
Yn ôl Adam Price, mae cynllun ei blaid yn cynnwys hwb economaidd gwyrdd o £6bn, a chreu bron i 60,000 o swyddi drwy law’r Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol wrth fynd i’r afael â phrosiectau megis adeiladu miloedd o dai cymdeithasol, adnewyddu cartrefi, ehangu a thrydaneiddio’r rheilffyrdd a sicrhau band llydan i bob rhan o Gymru.
Ymhellach, mae’n dweud y byddai’r blaid yn cyflwyno sicrwydd gwaith i bawb rhwng 16 a 24 oed gan gynnig y Cyflog Byw iddyn nhw, benthyciadau heb log i gael busnesau’n ôl ar eu traed a rhaglen sgiliau newydd i’r rhai sydd wedi colli eu swyddi’n ddiweddar sy’n cynnig lwfans o £5,000 iddyn nhw.
Mae e hefyd yn addo polisi caffael ‘lleol yn gyntaf’ i roi’r flaenoriaeth i fusnesau lleol bach a chanolig, gan osod targed o gynyddu cyfran busnesau Cymreig o gaffael cyhoeddus o 52% i 75%, gan greu hyd at 46,000 o swyddi.