Bydd SuperBowl LV rhwng y Kansas City Chiefs a’r Tampa Bay Buccaneers yn frwydr rhwng y ddau chwarterwr, Tom Brady a Patrick Mahomes, yn ôl dau o sylwebyddion y BBC.

Pe bai’r Chiefs yn llwyddo, nhw fyddai’r tîm cyntaf ers y New England Patriots, oedd yn cynnwys Tom Brady, yn 2003 a 2004 i ennill dwy bencampwriaeth o’r bron.

Bydd Brady yn mynd am seithfed tlws yn ei ddegfed SuperBowl, ac yntau’n 43 oed ac yn ei dymor cyntaf gyda’r Buccaneers.

Yn ôl Osi Umenyiora, byddai’n llawer gwell ganddo fe wynebu Brady na Mahomes.

“Nid yn unig mae gan [Kansas City Chiefs] eu chwarterwr, ond y derbynwyr sydd ganddyn nhw hefyd, mae pob un o’r tri boi yn eithriadol o gyflym.

“Travis Kelce, fe yw’r pen tynn o dderbynwr gorau yn y byd pêl-droed.

“Mae’n beth anodd iawn ymateb i’r math yna o chwaraewyr.

“Ond fel dywedais i, o ran llinell amddiffynnol y Tampa Bay Buccaneers, mae ganddyn nhw fantais.

“Dyna lle fyddan nhw’n ennill y gêm, os ydyn nhw am ennill y gêm, rhaid i’r llinell amddiffynnol haeddu eu harian.

“Rhaid iddyn nhw oresgyn llinell ymosodol y Kansas City Chief, neu fel arall, fydd dim gobaith ganddyn nhw.”

Canmol Patrick Mahomes

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Jason Bell, ei gyd-sylwebydd, sy’n dweud bod “gallu [Patrick Mahomes] yn rhywbeth arall”.

“Pe bawn i’n chwarae fel amddiffynnwr, byddai chwarae yn erbyn Kansas City yn fy ofni,” meddai.

“Mae hyn oherwydd y chwarae ail ymateb.

“Dw i jyst yn meddwl fel cefnwr amddiffynnol, gallwch chi gyfroi boi drwy’r dydd ac yn enwedig yn erbyn bois fel Tom Brady yn ei le.

“Mae gen i gloc yn fy mhen. Dw i’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Ond pan fo Patrick Mahomes yn dechrau symud allan o’r poced, mae pethau’n torri i lawr.

“Dw i wedi gwylio’r tâp drosodd a throsodd.”

Darogan y canlyniad

Y Kansas City Chiefs yw’r ffefrynnau swyddogol, ond mae Jason Bell yn disgwyl gornest dynn ac mai’r tîm sydd â’r chwarterwr ar ei orau fydd yn ennill.

“Dyna pam dw i wedi cyffroi cymaint am y gêm hon,” meddai.

“Maen nhw’n debyg iawn, byddwn i’n dweud.

“Dw i’n mynd yn fwy tuag at Kansas City jyst oherwydd natur ffrwydrol eu hymosod.

“Ond pan edrychwch chi ar Tampa Bay a’r arfau sydd gan Tom Brady, mae yna un A ac un B, ac ar yr ochr amddiffynnol, dw i’n edrych ar y llinell amddiffynnol honno ac mae olwyr llinell Tampa Bay, y chwaraewyr eilradd sy’n ifanc, ond maen nhw wedi gwella drwy’r flwyddyn.

“Jamel Dean, yn y gornel, mae e’n un o’r bois gorau yn y gynghrair, os gofynnwch chi i fi.

“Mae hi’r un fath o ran Kansas City. Maen nhw wedi gwella wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

“Ro’n i’n meddwl mai’r amddiffyn oedd eu gwendid.

“Ond mae [Steve] Spagnulo wedi gwneud beth mae e bob amser yn ei wneud ac mae’n gwella wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

“Maen nhw’n eitha’ cyfartal.

“Dyna pam, yn fy marn i, mae’n mynd i lawr i’r chwarterwr. Mae pawb yn gwybod hynny.

“Ond yn bwysicach fyth, eleni, oherwydd fod yr amddiffyn yn cyfateb yn dda i’w gilydd.”

Llai o dorf

Bydd y SuperBowl ychydig yn wahanol i’r arfer eleni, gyda dim ond 25,000 o bobol yn cael bod yn Stadiwm Raymond James yn Tampa oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.

Bydd y gic gyntaf am 11.30 heno (nos Sul, Chwefror 7) a’r gêm yn fyw ar y BBC.

The Weeknd fydd prif artist y sioe hanner amser eleni.