Mae Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, yn edrych ymlaen at ei gêm gyntaf ers naw wythnos, wrth iddo arwain ei wlad yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Chwefror 7).

Dydy’r clo ddim wedi chwarae i’w wlad na’i ranbarth, y Gweilch, ers iddo anafu ei benglin yn y fuddugoliaeth dros yr Eidal yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref naw wythnos yn ôl.

Mae e wedi ennill cyfanswm o 152 o gapiau rhyngwladol o gynnwys ei gemau dros y Llewod hefyd.

Fe wnaeth Cymru orffen yn bumed yn y gystadleuaeth y llynedd, ac maen nhw wedi cael blwyddyn siomedig o dan y prif hyfforddwr newydd, Wayne Pivac, gyda dim ond tair buddugoliaeth mewn deg gêm.

“Fe ges i adferiad da a chroesi bysedd mae wedi bod yn weddol ddi-ymdrech yn nhermau cynnydd a dychwelyd yn raddol,” meddai Alun Wyn Jones.

“Ro’n i’n barod iawn i chwarae yn y gêm [yn erbyn] Connacht.

“Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael [chwarae] yn y gêm ddydd Sul.

“Dw i wedi bod braidd yn rhwystredig, wir, oherwydd roedd yn gyfnod tebyg i fi ar ôl Cwpan y Byd yn 2019.

“Rhywun yn cwympo arna i oedd hyn.

“Mae wedi bod ychydig yn fwy rhwystredig, ond dw i’n ysu am y cyfle i gael nôl iddi’n iawn.”

Tîm profiadol

Mae gan chwaraewyr Cymru gyfanswm o 874 o gapiau rhyngddyn nhw – y tîm Cymru mwyaf profiadol erioed.

Mae naw chwaraewr wedi ennill dros 50 o gapiau, ac mae gan y rheng ôl – Dan Lydiate, Justin Tipuric a Taulupe Faletau 225 o gapiau rhyngddyn nhw.

Ond mae Alun Wyn Jones yn dweud bod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn destun siom.

“Rydyn ni wedi trafod tipyn ar y cyfle gafodd ei roi ac fe ddaeth at ei gilydd mewn pytiau, ond wnaeth y canlyniadau ddim dilyn,” meddai.

“Mae Wayne wedi bod yn agored mai’r Chwe Gwlad a rygbi twrnament yw hyn.

“Allwn ni ddim dweud nad oedden ni’n gwybod ei bod hi’n dod neu ei bod hi wedi cael ei threfnu’n hwyr oherwydd Covid.

“Roedden ni’n gwybod ei bod hi’n dod ac rydyn ni wedi paratoi amdani.”

Record yn erbyn Iwerddon

Mae Cymru wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Iwerddon, gan gynnwys dwy golled y llynedd, o 24-14 a 32-9.

Camgymeriadau a disgyblaeth oedd ar fai y tro diwethaf, yn ôl Alun Wyn Jones.

“Dyna’r pethau amlwg,” meddai.

“Ond mae’n [fater o] gysondeb cyffredinol drwy’r holl agweddau ar ein chwarae.

“Gallwch chi ennill gemau a rhestru llawer o bethau ond yn y pen draw, cysondeb yn yr ardaloedd allweddol sy’n galluogi popeth i lifo o’r fan honno.

“Felly hefyd y chwarae gosod.

“Os nad ydyn ni’n rhoi pwysau arnom ni ein hunain, mae’n helpu ein hymosod.

“Roedden ni’n llwyddiannus y tro diwethaf iddyn nhw eu herio nhw [Iwerddon] yn y stadiwm [yng Nghaerdydd], a’r Chwe Gwlad yw hi nawr.

“Gobeithio y gallan nhw ein gweld ni ar ein gorau.”