Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ‘eistedd ar £655m’ sydd wedi ei ddyrannu i fynd i’r afael â’r pandemig Covid-19.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn disgrifio’r sefyllfa fel un “gywilyddus” ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud â’r arian.
Ond mae’r adroddiad mae Andrew RT Davies yn cyfeirio ato yn awgrymu ei bod hi’n annhebygol y bydd y cyllid Covid-19 presennol gan Lywodraeth San Steffan yn ddigonol i ddelio â phwysau’r pandemig ac adferiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.
‘Cyllid annigonol’
Cafodd cyfanswm o £5.2bn ei warantu i Gymru gan Lywodraeth San Steffan yn 2020-21, ond bydd hyn nawr yn gostwng i £766m – ond yn ôl adroddiad Dadansoddiad Cyllidol Cymru gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mae’n annhebygol y bydd hyn yn ddigonol.
“Ar hyn o bryd, nid yw’r cyllid Covid-19 sydd ar gael yn debygol o fod yn ddigonol i ddelio â phwysau’r pandemig a’r adferiad ar y GIG, llywodraethau lleol, ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill”, meddai’r adroddiad.
Mae hefyd yn nodi ei bod yn debygol y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Cymru yn cael ei gyhoeddi yng Nghyllideb Llywodraeth San Steffan ddechrau mis Mawrth.
Bu rhaid i Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ymddiheuro fis Ionawr ar ôl i’r Trysorlys gyhoeddi ar gam y byddai Cymru’n derbyn £227m o gymorth coronafeirws ychwanegol.
‘Cywilyddus’
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru tua £655m yn weddill i’w ddyrannu’r flwyddyn ariannol hon.
“Bydd pobol yng Nghymru yn synnu o glywed canfyddiadau’r adroddiad sy’n dangos bod swm cywilyddus o £655m yn dal i eistedd yn aros i gael ei wario wrth i ni aros yng ngafael y pandemig hwn,” meddai Andrew RT Davies.
“Bydd pobol fusnes, yn enwedig busnesau bach, canolig a lletygarwch, sydd wedi gweld masnach yn diflannu dros nos, yn ei chael hi’n anodd credu bod y Llywodraeth Lafur yn cadw’r swm hwn o arian yn ôl pan ddylid ei ddyrannu a’i wario i ddiogelu bywydau a bywoliaeth Cymru nawr.”
Ychwanegodd Andrew RT Davies na ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r arian i’w mantais ac i leddfu’r boen wrth agosáu at etholiadau’r Senedd fis Mawrth.
‘Pecyn mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig’
Wrth ymateb i sylwadau Andrew RT Davies, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu “pecyn cymorth hael” eisoes wedi helpu i ddiogelu mwy na 125,000 o swyddi yng Nghymru.
“Rydym wedi darparu’r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y pandemig hwn,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.
“Mae’r adroddiad sydd wedi’i ddyfynnu yn cadarnhau ein bod wedi ymrwymo mwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes nag yr ydym wedi’i gael fel cyfran Cymru o wariant tebyg yn Lloegr.”