Mae manylion i hybu’r twf mwyaf yn nifer siaradwyr Gaeleg yr Alban ers cenhedlaeth wedi cael eu lansio.

Bydd cynllun SpeakGaelic yn cael ei lansio ym mis Medi, ac fe fydd yn cynnwys gwefan a rhaglenni ar lwyfannau teledu a gwefan BBC ALBA.

Bydd y cynllun yn cael ei lansio ar bedair lefel hyd at 2023 – A1, A2, B1 a B2 – sydd yn unol â chanllawiau fframwaith ieithoedd CEFRL, ac fe fydd yn cynnig y cyfle i siaradwyr newydd gael gwersi wyneb yn wyneb, dysgu yn eu hamser eu hunain a llu o adnoddau a deunyddiau sy’n gallu cael eu defnyddio ar wahân neu mewn cyfuniadau gwahanol.

Yn ogystal â siaradwyr newydd, bydd y cynllun yn addas ar gyfer siaradwyr sydd wedi colli hyder.

Eisoes, mae tua 600,000 o bobol yn dysgu Gaeleg yr Alban drwy DuoLingo ac mae’r cynllun hwnnw wedi dyblu nifer y bobol sy’n defnyddio gwefan LearnGaelic, yn yr Alban ac ar draws y byd.

MG ALBA, Sabhal Mòr Ostaig, Canolfan Iaith a Diwylliant Genedlaethol Gaeleg yr Alban a’r BBC fydd yn cydlynu a chyflwyno’r cynllun, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth yr Alban, Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith), y BBC ac MG ALBA.

Bydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o dair blynedd ar gost o £2.4m.

Ymateb

Yn ôl Isabel McTaggart, Rheolwr Cynnwys Aml-Gyfrwng MG ALBA, mae’r cynllun yn “ysbrydoli ac yn bwysig ar gyfer dyfodol yr iaith Aeleg”.

“Mae pob un ohonom yn MG ALBA yn falch o fod yn rhan o fenter yr ydym yn gobeithio y bydd yn trawsnewid dyfodol yr iaith,” meddai.

“Dw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio’r holl adnoddau er mwyn cryfhau fy Ngaeleg fy hun.”

Dywed Margaret Mary Murray, Pennaeth Darlledu BBC ALBA, y bydd y cynllun “yn cynnig gwasanaeth newydd gwych i wylwyr BBC ALBA, BBC iPlayer, Radio nan Gàidheal, Sounds a YouTube BBC ALBA.”

Mae Shona MacLennan, Pennaeth Bòrd na Gàidhlig, yn croesawu’r fenter newydd, sy’n dweud mai’r prif nod yw “fod yr iaith yn cael ei defnyddio gan fwy o bobol mewn mwy o sefyllfaoedd”.

“Bydd yn galluogi dysgwyr newydd i ddatblygu eu sgiliau a defnyddio’u Gaeleg mewn ffordd ymarferol,” meddai.

“Byddwn yn annog pawb sy’n teimlo y byddai’n well ganddyn nhw siarad mwy o Aeleg i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar ein safle.”

‘Prosiect gwych’

Yn ôl John Swinney, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, mae’n “brosiect gwych”.

“Bydd y cynllun byd-eang uchelgeisiol hwn o fudd i siaradwyr a dysgwyr Gaeleg ledled yr Alban a’r byd,” meddai.

“Dw i wrth fy modd hefyd o weld y bartneriaeth ar waith y tu hwnt i’r prosiect, ac edrychaf ymlaen at symud y gwaith hwn yn ei flaen.”