Mae’n bosibl y bydd cynllun ar waith yng Ngwynedd i brynu tai i’w rhentu i drigolion lleol.

Ar Chwefror 16, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried adroddiad a fydd yn gofyn am ganiatâd i fenthyca £15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai er mwyn eu gosod ar rent fforddiadwy.

Daw hyn yn dilyn mabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai ym mis Rhagfyr sydd yn cynnwys dros 30 o brosiectau i geisio mynd i’r afael â heriau yn y sector tai yng Ngwynedd.

Mae tua 2,700 o bobol ar restr aros am dai yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

Mae’r cynllun yn cynnwys darparu mwy o lety i bobol ddigartref, adeiladu mwy o dai cymdeithasol i’w gosod i drigolion lleol a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

‘Cam mawr’

“Rwyf yn pwysleisio yn aml mai fy mhrif flaenoriaeth ydi sicrhau ein bod fel Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnig cartrefi i bobol Gwynedd o fewn ein cymunedau,” meddai Craig ab Iago, yr aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Dai ac Eiddo.

“Bydd y cynllun yma, sef prynu tai i’w gosod ar rent fforddiadwy i bobol leol, yn helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol.

“Ein bwriad ydi cynyddu’r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobol er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau – rhywbeth a fyddai fel arall allan o’u cyrraedd.

“Bydd y cynllun yn golygu buddsoddiad sylweddol, ac mae’r achos fusnes yr ydym yn ei gynnig yn dangos y bydd y buddsoddiad yn cael ei ad-dalu dros gyfnod o rai blynyddoedd.

“Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobol Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.”