Mae perchnogion busnes yng Nghymru wedi croesawu galwadau Plaid Cymru i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall.
Ym mis Gorffennaf, penderfynodd Llywodraeth Prydain ostwng Treth ar Werth ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.
I nifer o berchnogion busnes, byddai cynnal y rhyddhad Treth ar Werth am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i’w dyfodol ac yn rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.
“Mae 5% ddigon anodd ar hyn o bryd”
Mae Llion Pughe, un o berchnogion Bwyty Byrgyr yn Aberystwyth o’r farn bod y rhyddhad wedi bod yn “hollol allweddol” i gynhaliaeth y busnes dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae 5% ddigon anodd ar hyn o bryd i ddweud y gwir,” meddai.
“Does dim incwm yn dod i mewn felly pan wyt ti’n ychwanegu hynny ar ben dy gostau misol, mae’n golygu bod gwahaniaeth rhwng be rydyn ni wedi ei gael i helpu gan y Llywodraeth a be rydyn ni’n gorfod talu allan.
“Beth sydd wedi digwydd tan hyn, ydi bod y Llywodraeth wedi propio’r diwydiant i fyny, ond os ydyn nhw’n tynnu hynny’n ôl rŵan, mi eith yr holl ymdrech ariannol maen nhw wedi eu rhoi i mewn yn barod i wast.
“Maen nhw wedi mynd mor bell â hyn rhaid peidio tynnu’n ôl cyn bod y diwydiant yn barod i sefyll ar ei draed ei hun,” meddai.
“Peryglu dyfodol yr holl fusnesau”
Teimlai’r dyn busnes bod y diwydiant angen amser i sefydlogi yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd, cyn bod modd ail-edrych ar ddiwygio unrhyw gymorth ariannol.
“Hyd nes bod yr hyder a lefelau mynd allan i wario yn ôl fel oedden nhw cynt, gall busnesau ddim adfer y twll ariannol sydd wedi ei greu dros y cyfnod yma,” meddai.
Rhybuddiodd y byddai unrhyw newidiadau cynamserol yn “peryglu dyfodol yr holl fusnesau”.
“Mae’n rhaid pontio’r cyfnod yma nawr,” meddai,
“Os ydyn nhw’n torri’r bont yn fyr, mae pobl yn mynd i gwympo i’r dŵr yr union yr un fath, a gwastraffu’r holl gymorth sydd wedi bod tan rŵan.”
Mae’r dyn busnes yn rhagweld y bydd y sector lletygarwch yn rhan ganolog o ymdrech y Llywodraeth i adfer yr economi wedi’r pandemig, ac mae’n dweud bod rhaid ei ddiogelu yn y cyfamser.
“Rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen”
“Mae o wedi bod yn help mawr iawn,” meddai Richard Wyn Huws, perchennog Gwinllan a Pherllan Pant Du, yn Nyffryn Nantlle.
“Mae gwerth cario hynny ymlaen – mae o’n rhoi hyder i’r diwydiant i symud ymlaen gan wybod fod o ddim yn costio 20% am bob dim ti’n prynu.”
Dywed y byddai dychwelyd i’r gost Treth ar Werth arferol o 20% yn “llorio” y busnes.
“Rydyn ni wedi buddsoddi lot yn ein busnes ni – rydyn ni’n byw mewn ardal hyfryd yn Eryri – Dyffryn Nantlle – ar gyfer y bobl leol a thwristiaid,” meddai wedyn.
“Pan wyt ti’n gorfod cau dy ddrysau a hithau’n ddiwrnod braf neis a ti’n gwybod y byddai yna lot o bobl yn troi fyny – mae o’n dorcalonnus.
“Ti’n gweld y drws ar gau a’r car park yn wag a dim llawer o bres yn dod i mewn – dydi o ddim yn neis, dydi o ddim yn neis o gwbl.
“Mae’r weledigaeth oedd gen ti’n wreiddiol – mae’r drws wedi cau yn dy wyneb di.
“… ac mae pawb yn colli allan.”