Mae Plaid Cymru wedi galw ar Ganghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall.

Yn ôl Aelodau Seneddol Plaid Cymru dros Dwyfor Meirionydd ac Arfon, Liz Saville Roberts a Hywel Williams, byddai hyn yn helpu’r economi a busnesau lletygarwch i adfer yn sgil effeithiau pandemig y coronafeirws.

Ym mis Gorffennaf, roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gostwng Treth ar Werth ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.

Byddai cadw Treth ar Werth ar 5% yn rhoi sicrwydd i fusnesau, yn rhoi hwb i’r diwydiant lletygarwch, ac yn diogelu swyddi ledled Gwynedd, meddai Liz Saville Roberts a Hywel Williams.

Mae deiseb i Senedd San Steffan yn galw ar y Llywodraeth i gynnal rhyddhad Treth ar Werth eisoes wedi derbyn dros ddeng mil o lofnodion.

“Nid oes unrhyw sector wedi cael ei daro’n galetach na’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Liz Saville Roberts AS a Hywel Williams AS:  “Nid oes unrhyw sector wedi cael ei daro’n galetach na’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, ac mae economi Gwynedd yn dibynnu’n fawr ar y refeniw a gynhyrchir gan waith caled pobl fusnes lleol, gan gynnal miloedd o swyddi.

“Parhau mae’r galwadau gan fusnesau lleol am gefnogaeth sector-benodol ynghyd a sicrwydd pellach gan y llywodraeth, o ystyried y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus angenrheidiol sy’n dal mewn lle.

“Yr haf diwethaf, ildiodd y Canghellor i bwysau gan ddiwydiant a gwleidyddion, a thorri TAW ar fwyd, llety ac atyniadau o 20% i 5%, gan roi rhywfaint o seibiant i fusnesau lletygarwch.

“Mae Plaid Cymru yn galw ar y Canghellor i ymestyn y rhyddhad TAW hwn i’r sector lletygarwch.

“Byddai hyn nid yn unig yn caniatáu gofod anadlu i fusnesau yn y sector hwn sydd dan bwysau mawr ond hefyd yn eu gosod yn y lle gorau i fanteisio ar fwy o dwristiaeth ddomestig a rhagolygon o gynnydd yng ngwariant defnyddwyr wrth i’n cymunedau a’n heconomi ddod allan o fesurau cloi.”

“Peryglu’r sector”

Aiff y datganiad ymlaen i ddweud y byddai peidio ymestyn rhyddhad Treth ar Werth yn “peryglu’r sector”.

“Er ein bod wedi lobïo ers amser am ostyngiad i 5% mewn TAW i’r sector twristiaeth, mae’r dreth hon yn parhau i fod dan reolaeth San Steffan ac mae’n annhebygol y bydd y rhyddhad yn un amhenodol,” meddai.

“Dyna pam y byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i sicrhau bod gohiriadau treth a mesurau eraill o’r fath, os cânt eu hailgyflwyno, â llwybr clir, cynaliadwy ar gyfer ad-dalu er mwyn peidio â chreu dyled anorchfygol a thaliadau gohiriedig i fusnesau Cymru.

“Byddai peidio ag ymestyn y toriad mewn TAW ar gyfer lletygarwch yn gam gwag, a byddai’n peryglu sector sy’n parhau i ddioddef oherwydd pandemig Covid-19.”