Yn India mae 18 o bobl wedi marw ac o leiaf 165 yn dal ar goll ar ôl i ddarn mawr o rewlif ym mynyddoedd yr Himalaya ddisgyn gan achosi llifogydd difrifol.

Mae timau achub yn ceisio cyrraedd 37 o weithwyr mewn gorsaf ynni sydd wedi bod yn gaeth mewn twnnel ers y llifogydd ddydd Sul (Chwefror 7). Mae 165 o weithwyr mewn dwy orsaf bŵer yn yr ardal yn dal ar goll.

Mae mwy na 2,000 o aelodau’r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio am bobl yn  nhalaith Uttarakhand ers y llifogydd, sydd wedi dinistrio argae, a difrodi un arall, ynghyd a nifer o gartrefi.

Yn ôl swyddogion mae’r ffocws ar geisio achub y 37 o weithwyr sy’n gaeth yn y twnnel yn Dhauliganga ac mae peiriannau’n cael eu defnyddio i geisio clirio’r rwbel o’r twnnel.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n credu bod llawer mwy o bobl wedi marw ac maen nhw’n defnyddio cychod i chwilio am gyrff sydd wedi cael eu sgubo i ffwrdd gan y dŵr.

Fe achoswyd y llifogydd ar ôl i ran o rewlif Nanda Devi dorri gan ryddhau’r dŵr oedd y tu ôl iddo. Yn ôl arbenigwyr fe allai cynhesu byd eang fod yn gyfrifol am achosi hyn.

Roedd y dŵr wedi llifo i lawr y mynydd ac i afonydd eraill gan orfodi nifer o drigolion yn y pentrefi gerllaw afonydd Alaknanda a Dhauliganga i adael eu cartrefi.