Fe fydd tua  2,450 o staff yn cael clywed heddiw (Dydd Llun, Chwefror 8) eu bod wedi colli eu swyddi ar ôl i’r cwmni dillad ar-lein Boohoo brynu Dorothy Perkins, Wallis a Burton am £25.2 miliwn.

Mae’r cytundeb yn cynnwys asedau e-fasnach a digidol y busnesau, a oedd yn berchen i grŵp Arcadia Syr Philip Green pan aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Rhagfyr.

Ond nid yw’n cynnwys 214 o siopau’r brandiau, a fydd yn cau, yn ôl y gweinyddwyr Deloitte.

Roedd staff wedi derbyn e-bost heddiw ac fe fyddan nhw’n cael gwybod yn ystod y dydd.

Fe fydd tua 260 o swyddi, yn bennaf mewn swyddfeydd, yn cael eu hachub wrth iddyn nhw drosglwyddo o’r brandiau i Boohoo.

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd Boohoo eu bod nhw wedi prynu brand a gwefan Debenhams am £55 miliwn ond nid oedd wedi prynu 118 o siopau’r cwmni, gan olygu y bydd tua 12,000 o swyddi’n cael eu colli.

Mae Boohoo wedi gweld twf yn eu busnes wrth i fwy a mwy o siopwyr brynu ar-lein yn ystod y pandemig.

Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Asos, un o brif gystadleuwyr Boohoo, eu bod wedi arwyddo cytundeb gwerth £330m i brynu Topshop, Topman, Miss Selfridge a HIIT gan y grŵp Arcadia.

Mae gweinyddwyr bellach wedi gwerthu holl frandiau Arcadia, gan godi tua £500 miliwn i dalu credydwyr.