Mae’r mudiad gwrth-niwclear PAWB wedi mynegi eu “syndod os nad anghrediniaeth” i adroddiadau yn y Sunday Times ddoe (Chwefror 7) bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau â Hitachi ynglŷn â phrynu bron 750 o erwau o dir ger gorsaf niwclear y Wylfa ym Môn.
Mewn llythyr agored at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae’r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio “dargyfeirio miliynau o bunnoedd o arian pobl Cymru at bryniant safle ar gyfer yr eliffant gwyn niwclear mewn cyfnod o bwysau enfawr trwy gyfuniad y pandemig a Brexit ar gyllid cyhoeddus ein cenedl.”
Daw eu hymateb yn dilyn adroddiadau yn y Sunday Times fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio, ar yr unfed awr ar ddeg, i achub Wylfa ym Môn drwy ei brynu gan gwmni Hitachi.
Mae lle i gredu bod y Llywodraeth wedi cysylltu â Hitachi ynghylch cymryd drosodd prosiect Horizon a chymryd rheolaeth o’r staff hyd nes bod modd dod o hyd i ddatblygwr newydd.
Fe wnaeth Hitachi roi’r gorau i’w cynlluniau yno fis Medi, a bydd y cwmni’n cau’r prosiect fis nesaf ar ôl cefnu ar gynlluniau i adeiladu safle ynni niwclear newydd gwerth £20bn.
Mae’r Sunday Times yn adrodd bod Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo o hyd” i drafod y ffordd ymlaen gyda Hitachi a Horizon, a’u bod nhw’n “dal i gredu bod Wylfa Newydd yn un o’r safleoedd gorau yn Ewrop am ddatblygiad niwclear newydd”.
Dim “fath beth â safle da ar gyfer ynni niwclear”
Ond yn y llythyr agored at Mark Drakeford, dywedodd PAWB “nad oes y fath beth â safle da ar gyfer ynni niwclear” gan gyhuddo gwleidyddion yng Nghymru o “ddilyn chwiwiau gwleidyddol” San Steffan.
“Mae llawer gormod o amser, arian ac egni gwleidyddol wedi cael eu gwastraffu dros yr ugain mlynedd ddiwethaf yng Nghymru wrth i wleidyddion o bob plaid yn ein Senedd yng Nghaerdydd ddilyn chwiwiau gwleidyddol Tony Blair, Gordon Brown, David Cameron, Theresa May a Boris Johnson o blaid cael cenhedlaeth newydd o adweithyddion niwclear mawr,” meddai.
Ychwanega’r llythyr: “Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o bethau da mewn ymateb i Covid-19 gan dorri ei chwys ei hun yn effeithiol. Peidiwch â gadael i’r gwaith da hwnnw fynd yn ofer trwy ddargyfeirio miliynau o bunnoedd o arian pobl Cymru at bryniant safle ar gyfer yr eliffant gwyn niwclear mewn cyfnod o bwysau enfawr trwy gyfuniad y pandemig a Brexit ar gyllid cyhoeddus ein cenedl.
“Dylid seilio cynllun adfer ar ôl y pandemig ar ddatblygu rhaglen gynhwysfawr o arbed ynni, a datblygu’r holl dechnolegau adnewyddadwy sy’n llawer rhatach i’w cwblhau ac sy’n cynnig atebion llawer cyflymach i wrthweithio problemau newid hinsawdd a chynhesu byd-eang nac unrhyw brosiect niwclear mawr neu lai.”
Llywodraeth Cymru am “barhau i drafod â Hitachi a Horizon ffyrdd posibl ymlaen ar gyfer y safle”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae penderfyniad Hitachi i dynnu yn ôl o brosiect Wylfa Newydd yn un siomedig.
“Er na fyddwn yn cyflwyno unrhyw sylwadau ynghylch y straeon sydd ar led, hoffem bwysleisio ein bod yn parhau i gredu mai safle Wylfa Newydd yw un o’r safleoedd gorau ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn Ewrop a byddwn yn parhau i drafod â Hitachi a Horizon ffyrdd posibl ymlaen ar gyfer y safle.”
Llywodraeth Cymru ‘wedi ceisio achub Wylfa drwy ei gymryd drosodd gan Hitachi’