Mae adroddiadau yn y Sunday Times fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio ar yr unfed awr ar ddeg i achub Wylfa ym Môn drwy ei brynu gan gwmni Hitachi.

Mae lle i gredu bod y llywodraeth wedi cysylltu â Hitachi ynghylch cymryd prosiect Horizon drosodd a chymryd rheolaeth o’r staff hyd nes bod modd dod o hyd i ddatblygwr newydd.

Fe wnaeth Hitachi roi’r gorau i’w cynlluniau yno fis Medi, ar ôl dileu £2bn yn 2018, a bydd y cwmi’n cau’r prosiect fis nesaf ar ôl cefnu ar gynlluniau i adeiladu safle ynni niwclear newydd gwerth £20bn.

Mae aelodau seneddol eisoes wedi galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, i gamu i mewn yn sgil “pryderon difrifol”, a hynny ar ôl i gonsortiwm Americanaidd ysgrifennu at Lywodraeth Prydain yn galw arni i gaffael y tir ac asedau prosiect Horizon ym Môn.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
Wrth ymateb i’r adroddiadau, dywed Janet Finch Saunders, llefarydd Ynni y Ceidwadwyr Cymreig, fod ei phlaid yn “lladmerydd cryf ynni niwclear er mwyn symud o danwyddau ffosil i ddulliau ynni mwy gwyrdd”.
Mae’n dweud eu bod nhw “wedi cael siom” yn sgil sefyllfa Wylfa, yn enwedig wrth i Horizon dynnu’n ôl o’r prosiect fis diwethaf.

“Tra ein bod ni’n parhau i ddweud bod safle Ynys Môn yn ddelfrydol ar gyfer gorsaf niwclear, byddwn yn rhybuddio bod angen cymryd gofal o’r adroddiadau – os ydyn nhw’n gywir – fod Llywodraeth Cymru’n ystyried cymryd y prosiect drosodd.”

Mae’n dweud bod record Llywodraeth Cymru wrth gymryd prosiectau drosodd “yn bytiog a dweud y lleiaf”.

“Roedd penderfyniad Hitachi i dynnu’n ôl o brosiect £20bn Wylfa, a fyddai wedi creu hyd at 850 o swyddi, yn ergyd i ogledd Cymru a thra ein bod ni am weld y prosiect yn mynd yn ei flaen ar ryw ffurf, all e ddim cael ei adael i Lywodraeth Lafur â’i record gywilyddus o wael o ran prosiectau mawr i’w reoli.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.