Fe fu protestiadau sylweddol yn ne Chile ar ôl i jyglwr stryd gael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Cafodd nifer o adeiladau eu rhoi ar dân, a chafodd plismon ei ddwyn i’r ddalfa ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 6).

Fe ddigwyddodd yr achos o saethu yn nhref Panguipulli ddydd Gwener (Chwefror 5), ac fe fu cryn brotestiadau yn y brifddinas Santiago.

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth Francisco Martinez Romero, 27, geisio eu hatal nhw wrth iddyn nhw ofyn iddo am gael gwirio pwy oedd e.

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae modd gweld plismon yn saethu wrth draed y dyn oedd yn cario cyllyll machete fel rhan o’i berfformiad, a’r dyn ei hun yn rhuthro atyn nhw.

Cafodd ei saethu sawl gwaith cyn cwympo i’r llawr.

Dydy enw’r plismon ddim wedi cael ei gyhoeddi, ac fe wnaeth barnwr orchymyn ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa am ddeuddydd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Fe fu adroddiadau droeon am ymddygiad yr heddlu yn y wlad.

Cafodd mwy na 450 o bobol anafiadau i’w llygaid ar ôl i’r heddlu danio yn ystod protestiadau yn 2019.

“Cerddor y bobol” yn ysbrydoli canwr y Manics

Alun Rhys Chivers

Mae albwm newydd James Dean Bradfield yn adrodd hanes canwr a bardd gafodd ei arteithio yn arw cyn cael bwled i’w ben