Mae Heddlu’r De yn dweud bod criw o bobol yn ardal Uplands yn Abertawe wedi cael dirwy “am wylio Lloegr yn colli’r rygbi” neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 7).

Cafodd naw o bobol o aelwydydd gwahanol ddirwy am ymweld â chartref ffrind i wylio’r gêm gyda’i gilydd.

Ond mae’r neges yn crybwyll Lloegr yn colli’r gêm rygbi bellach wedi cael ei dileu.

Roedd hi’n noson fawr i dîm rygbi’r Alban wrth iddyn nhw guro’r Saeson o 11-6 – eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf yn Twickenham ers 1983.

Mewn digwyddiad arall, fe wnaeth yr heddlu roi terfyn ar barti pen-blwydd yn ardal Ynystawe y ddinas.