Mae Mary Lou McDonald, Llywydd Sinn Fein, yn ymbil ar Lywodraeth Prydain i roi unrhyw frechlynnau coronafeirws sbâr i Iwerddon.

Daw ei hapêl ar Sky News wrth iddi gael ei holi am y posibilrwydd o ddargyfeirio brechlynnau dros ben i Weriniaeth Iwerddon o ganlyniad i drafferthion yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud ei bod hi am weld “haelioni ac undod” ar draws y byd o ran brechlynnau coronafeirws, ac nid dim ond rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

“Yn sicr, os oes cyflenwadau dros ben ym Mhrydain a chapasiti i hwnnw gael ei rannu ag Iwerddon rywbryd, wel wrth gwrs, yn sicr, rhaid mai’r prosiect yn y fan yma yw brechu pobol,” meddai.

“Ras yn erbyn y feirws yw hon ac yn erbyn marwolaeth, felly ydw dw i’n meddwl bod angen i ysbryd o degwch a haelioni ennill y dydd…”

Mae’n dweud y byddai’n disgwyl yr un tegwch a haelioni pe bai’r sefyllfa i’r gwrthwyneb.

“Oherwydd dydy’r feirws ddim yn poeni am wleidyddiaeth na ffiniau na dim un o’r pethau hynny,” meddai.

“Rydym oll yn rhannu’r un fioleg ac mae hi mor bwysig fod y gwaith anhygoel sydd wedi cael ei wneud ga wyddonwyr yn rhyngwladol, gan gynnwys ym Mhrifysgol Rhydychen ac ar draws y byd, fod ffrwyth y llafur a’r wybodaeth a’r arbenigedd yn cael ei rannu yn y modd y byddai gwyddoniaeth dda yn bwriadu, ac mae hynny’n golygu cadw ein holl gyd-drigolion yn ddiogel ac yn fyw ac yn iach.”