Mae ail berson wedi cael ei arestio mewn perthynas â thân a chyfres o fwrgleriaethau yn rhai o gytiau traeth drutaf gwledydd Prydain yn Dorset.

Cafodd tri o’r cytiau yn Hengistbury Head eu rhoi ar dân, ac fe wnaeth unigolion dorri i mewn i 30 arall fore ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 6).

Doedd neb yn y cytiau ar y pryd a chafodd neb ei anafu.

Mae dyn 19 oed o’r ardal wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol ac o fwrgleriaeth.

Daw hyn ar ôl i lanc 15 oed o Bournemouth gael ei arestio ar amheuaeth o’r un troseddau, ac mae e bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Mae gan y cytiau olygfeydd hyfryd dros arfordir Dorset ac maen nhw’n aml yn cael eu gwerthu am hyd at £300,000.

Cytiau traeth gwerth £300,000 yr un yn cael eu rhoi ar dân

Heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad amheus ar arfordir de Lloegr