Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud ei fod yn teimlo “rhyddhad” ar ôl i’w wraig a’i fam-yng-nghyfraith dderbyn brechlyn Covid-19.
Mae’n dweud ei fod yn “hynod ddiolchgar” eu bod nhw wedi derbyn dos cyntaf.
Mae ei wraig Clare yn 66 oed a’i fam-yng-nghyfraith yn 94 oed, ac fe fu’r ddwy yn cysgodi yn ystod y pandemig yn sgil cyflyrau iechyd.
Cafodd y ddau eu heintio am gyfnod y llynedd ond maen nhw wedi gwella’n llwyr bellach.
Ymateb
“Oherwydd eu cyflyrau, maen nhw ill dwy yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf ac wedi cael eu brechu,” meddai.
“Roedd profiadau’r ddwy yn ardderchog yn nhermau pa mor esmwyth oedd y cyfan a pha mor drefnus oedd e, a dydyn nhw ddim wedi cael unrhyw fath o sgil-effeithiau.
“Dw i’n hynod ddiolchgar oherwydd mae’r ddwy yn fregus.
“Ac er eu bod nhw wedi bod yn hynod o ofalus a ddim yn gwneud unrhyw beth sy’n eu rhoi nhw mewn perygl, mae’r ffaith eu bod nhw wedi cael brechlyn yn rhyddhad.
“Gallwch chi weld sut mae’n rhoi bydolwg gwahanol i rywun, fod modd iddyn nhw weld y golau ar ddiwedd hyn i gyd.”
Mae’n dweud ei fod yntau bellach yn disgwyl cael ei frechu o fewn y pum grŵp blaenoriaeth uchaf ond nad yw e eto wedi cael apwyntiad.
‘Annhegwch’
Yn y cyfamser, mae’n dweud bod “annhegwch y feirniadaeth” fod Cymru ar ei hôl hi wrth frechu pobol ar ddechrau’r rhaglen frechu wedi rhoi ysbryd o “gadewch i ni ddangos iddyn nhw” i’r wlad.
Mae cyfradd frechu Cymru bellach wedi mynd y tu hwnt i gyfradd Lloegr, gan lwyddo i gyrraedd y gyfradd dos cyntaf y pen orau o blith gwledydd Prydain.
“Dw i’n credu bod y feirniadaeth, yn y dyddiau cynnar, wedi arwain at ryw ysbryd yn rhannau o’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Ysbryd o ‘gadewch i ni ddangos iddyn nhw’.
“Dydy pobol ddim yn fodlon pan maen nhw’n gwybod nad yw’r feirniadaeth yn deg, nad oedd barnu perfformiad system yn y dyddiau cytaf fyth yn mynd i fod y ffordd orau o farnu.
“Dw i wedi siarad â dau glinigwr yn uniongyrchol a ddywedodd wrtha i ei fod wedi eu gwneud nhw hyd yn oed yn fwy penderfynol o ddangos beth mae system Cymru’n gallu ei wneud.”