Mae lle i gredu bod brechlyn coronafeirws AstraZeneca yn gallu gwarchod pobol rhag yr achosion mwyaf difrifol o salwch yn sgil yr amrywiolyn newydd o Dde Affrica.

Bydd ymchwil newydd gan wyddonwyr yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Llun, Chwefror 8).

Mae’r ymchwil yn cynnwys oddeutu 2,000 o bobol, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ifanc ac yn iach.

Mae gwyddonwyr yn dweud bod y brechlyn yn fwyaf effeithiol gyda seibiant o wyth i 12 wythnos rhwng y ddau ddos.

Ond mae’r Athro Robin Shattock o Imperial College yn Llundain yn rhybuddio mai pwyll piau hi o ran asesu’r ymchwil.

“Mae’n astudiaeth fechan iawn ag ychydig dros 2,000 o bobol a dydy e ddim wedi cael ei gyhoeddi, felly allwn ni ddim ond barnu o’r datganiad a’r sylw gan y wasg,” meddai wrth raglen BBC Breakfast.

“Ond mae’n bryder i ryw raddau ein bod ni’n gweld nad yw’n effeithiol yn erbyn afiechyd bach neu gymhedrol.”

Mae’n dweud mai dynion tua 31 oed oedd yn rhan o’r astudiaeth, a dydy hi ddim yn glir sawl dos o’r brechlyn maen nhw wedi’u cael hyd yn hyn, a beth oedd y bwlch rhwng y ddau ddos.

Yn ôl pwyllgor brechu Llywodraeth Prydain, mae’n “debygol iawn” fod y brechlyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn gwarchod rhag yr amrywiolyn newydd ac fe allai gymryd hyd at bythefnos i gael canlyniadau profion bwriadol i olrhain yr amrywiolyn o Dde Affrica yn Lloegr.

Mae oddeutu 80,000 o brofion drws-i-ddrws wedi cael eu cynnal ar ôl i 11 o achosion o’r amrywiolyn ddod i’r amlwg ymhlith pobol oedd heb deithio yn y dyddiau cyn cael prawf, sy’n awgrymu y gall yr amrywiolyn fod yn lledu yn y gymuned.