Mae penaethiaid archfarchnadoedd wedi ysgrifennu llythyr agored at y Canghellor Rishi Sunak yn galw am ostwng cyfraddau busnes yn barhaol yn ei Gyllideb ar Fawrth 3.

Maen nhw eisiau ei gwneud yn decach iddyn nhw gystadlu gyda’u cystadleuwyr ar-lein.

Mae Tesco wedi galw am gyflwyno treth gwerthu ar-lein o 1% ar gwmnïau mawr fel Amazon cyn y Gyllideb.

Nid yw siopau a chwmnïau lletygarwch wedi gorfod talu cyfraddau busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol ers dechrau’r pandemig.

Serch hynny, mae disgwyl i’r dreth ail-ddechrau ym mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd er gwaetha’r ffaith bod siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn parhau ynghau oherwydd y cyfyngiadau.

“Miloedd o swydd yn y fantol”

Roedd nifer o’r cwmnïau mawr, gan gynnwys chwe archfarchnad fwya’r Deyrnas Unedig, wedi talu eu cyfraddau busnes yn ôl i’r Llywodraeth, oedd yn werth mwy na £2 biliwn.

Ond maen nhw nawr yn dweud os na fydd y system cyfraddau busnes yn cael ei ddiwygio yn y Gyllideb nesaf fe fydd yn “amharu ar adferiad y sector manwerthu ar ôl y pandemig, ac o bosib yn rhoi miloedd o swydd yn y fantol.”

Mae’r llythyr, sydd hefyd wedi cael ei arwyddo gan Asda a Morrisons, yn rhybuddio bod 15,000 o swyddi yn y sector wedi cael eu colli yn barod eleni “a bod llawer mwy i ddod.”

Er nad yw’r llythyr yn galw’n uniongyrchol am dreth gwerthu ar-lein mae Tesco wedi galw unwaith eto ar orfodi’r cwmnïau mawr ar-lein i dalu treth o 1%.

Maen nhw’n galw am greu system sy’n “deg ac yn gynaliadwy i bawb”.