Fe fydd dyn 70 oed yn mynd gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw (dydd Llun, Chwefror 8) ar gyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes ym Mhontypwl.

Cafwyd hyd i gorff Linda Maggs, 74 oed, mewn tŷ yn ardal Sebastopol yn y dref tua 9.20yb ddydd Sadwrn (Chwefror 6).

Cafodd y dyn, o ardal Cwmbrân, ei arestio a’i gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio.

Cafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth ddydd Sul (Chwefror 7) a bydd yn mynd gerbron llys heddiw.

Dywed Heddlu Gwent nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.