Doedd hi ddim yn glasur o gêm wrth i Gymru ddychwelyd i Stadiwm Principality am y tro cyntaf mewn bron i flwyddyn brynhawn Sul.
Leigh Halfpenny hawliodd y pwyntiau cynnar, gan roi’r tîm cartref ar y blaen gyda’i gic gosb.
Ond ar ôl anafu ei ben-glin yn ystod y munudau cyntaf bu rhaid i Dan Lydiate, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers 2018, adael y cae yn gynnar.
Yn fuan wedyn cafodd blaenasgellwr Iwerddon Peter O’Mahony ei anfon o’r cae am ruthro i mewn i dacl ar y prop Tomos Francis â’i ysgwydd.
Cafodd y drosedd ei gweld gan y dyfarnwr fideo, ac fe gafodd gerdyn coch.
Er i Halfpenny ychwanegu tri phwynt arall arweiniodd camgymeriadau gan Gymru at 14 dyn Iwerddon yn rheoli’r chwarae am weddill yr hanner.
Tarodd y Gwyddelod yn ôl gyda dwy gic gosb a chais hwyr i Tadhg Beirne.
Hanner amser – Cymru 6–13 Iwerddon
Parhaodd Iwerddon i reoli’r gêm ar ddechrau’r ail hanner.
Daeth cais cyntaf Cymru i George North wedi 48 munud, ond fethodd Halfpenny gicio’r pwyntiau ychwanegol.
Wrth i Gymru ddechrau ail afael yn y gêm croesodd yr asgellwr ifanc, Louis Rees-Zammit, yn y gornel.
Fe arweiniodd diffyg disgyblaeth Iwerddon at gic gosb rhwydd o flaen y pyst a alluogodd Halfpenny i ymestyn mantais Cymru i 8 pwynt.
Gyda deg munud yn weddill o’r gêm fe darodd y Gwyddelod yn ôl, yr eilydd Billy Burns yn cicio tri phwynt i gau’r bwlch unwaith eto.
Er i Iwerddon barhau i bwyso wedi i’r cloc droi’n goch camgymeriad gan Iwerddon daeth ar gêm i ddiwedd yn y pen draw wrth Billy Burns gicio’r bel yn farw.
Yn dilyn y gêm cadarnhaodd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, bod hi’n annhebygol bydd Dan Lydiate a Tomos Williams a anafwyd yn ystod yr hanner cyntaf nac Johnny Williams ac Hallam Amos a adawodd y cae gyda chyfergyd ar gael i chwarae yn erbyn yr Alban penwythnos nesaf.
Cymru |
21-16 |
Iwerddon |
North, Rees-Zammit |
Ceisiau |
Beirne |
Halfpenny |
Trosiadau |
Sexton |
Halfpenny (3) |
Ciciau Cosb |
Sexton (2), Burns |
Tîm Cymru
Olwyr: 15. Leigh Halfpenny, 14. Hallam Amos, 13. George North, 12. Johnny Williams, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Dan Biggar, 9. Tomos Williams
Blaenwyr: 1. Wyn Jones, 2. Ken Owens, 3. Tomas Francis, 4. Adam Beard, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. Dan Lydiate, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Rhodri Jones, 18. Leon Brown, 19. Will Rowlands, 20. Josh Navidi, 21. Gareth Davies, 22. Callum Sheedy, 23. Nick Tompkins
Tîm Iwerddon
Olwyr: 15. Hugo Keenan, 14. Keith Earls, 13. Garry Ringrose, 12. Robbie Henshaw, 11. James Lowe, 10. Jonathan Sexton (C), 9. Conor Murray
Blaenwyr: 1. Cian Healy, 2. Rob Herring, 3. Andrew Porter, 4. Tadhg Beirne, 5. James Ryan, 6. Peter O’Mahony, 7. Josh van der Flier, 8. CJ Stander.
Eilyddion: 16. Ronan Kelleher, 17. Dave Kilcoyne, 18. Tadhg Furlong, 19. Iain Henderson, 20. Will Connors, 21. Jamison Gibson Park, 22. Billy Burns, 23. Jordan Larmour