Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd ei gefnwr de Kyle Naughton ar ôl iddo chwarae yn ei 200fed gêm i’r clwb.

Daeth y garreg filltir yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Norwich nos Wener (Chwefror 5).

Ymunodd e â’r clwb ym mis Ionawr 2015.

Ers hynny, fe fu’n aelod o’r garfan yn uchelfannau’r Uwch Gynghrair Lloegr cyn y gwymp i’r Bencampwriaeth.

Ac fe fu’n aelod allweddol o’r garfan fyth ers hynny, gan chwarae yn safle’r cefnwr, amddiffynnwr canol a chwaraewr canol cae.

Mae’r Elyrch wedi ildio dim ond 15 o goliau y tymor hwn, gan gadw 15 llechen lân.

‘Chwaraewr mae pawb yn ei garu’

“Naughts yw’r chwaraewr mae pawb yn ei garu – y pêl-droediwr a’r boi yw e,” meddai Steve Cooper.

“Mae e’n broffesiynol dros ben, yn foi gwych ac yn chwaraewr da iawn.

“Mae e’n gallu chwarae’n gefnwr de, yn amddiffynnwr canol de, mae’n gallu adeiladu o’r cefn gyda’r bêl, mae e’n amddiffynnwr clyfar ac yn arogli perygl.

“Dydy e byth yn edrych dan bwysau ac rydyn ni’n lwcus iawn o’i gael e.

“Ac yntau’n chwaraewr profiadol, mae e wedi dangos llawer o barch i fi a’r staff o ran yr hyn rydyn ni’n gofyn iddo ei wneud, ac allwn i ddim bod yn hapusach drosto fe wrth wneud 200 o ymddangosiadau – mae e’n haeddu tipyn o glod.

“Pob clod i’r clwb a phob clod iddo fe am hynny oherwydd mae e wedi cael amserau da. Dw i’n credu bod rhagor i ddod.

“Dw i’n falch ohono fe wrth gyrraedd 200 o gemau – ddylai hynny ddim mynd heb gydnabyddiaeth – a boed i hynny barhau.”