Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e eisiau i’r tîm adeiladu ar eu buddugoliaeth o 2-0 dros Bristol City yn y gemau sydd i ddod dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r Adar Gleision yn bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth, a gallai un fuddugoliaeth arall eu codi nhw i hanner ucha’r tabl.
Mae ganddyn nhw gemau cartref yn erbyn Coventry a Preston, a gemau oddi cartref yn Rotherham, Luton, Bournemouth a Middlesbrough cyn diwedd y mis.
“Mae’n wych ein bod ni wedi enill, ac ennill y drydedd gêm ar ôl cael dwy gêm gyfartal,” meddai’r rheolwr.
“Rydyn ni’n ddi-guro, ond roedd y gemau cyfartal jyst yn adeiladu ar ben y gynghrair, felly mae’n fuddugoliaeth wych.
“Mae’n grêt i’r bois hefyd.
“Gallwch chi ddychmygu sut maen nhw’n teimlo, maen nhw wrth eu boddau.
“Hoffwn i feddwl bod hynny wedi gosod y nod.
“Dyna lefel y perfformiadau sydd eu hangen bob wythnos yn y Bencampwriaeth.
“Mae angen i ni wneud hynny bob wythnos.
“Dyna sy’n dod gyntaf i fi; sut mae’r bois yn gweithio, sut maen nhw fel tîm, lefel yr ymdrech ganddyn nhw. Dw i’n credu bod hynny’n rhagofyniad.”