Cyhoeddodd Cymru’r wythnos hon y bydd gêm baratoadol ar gyfer yr Ewros yn erbyn Albania yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar y 5ed o Fehefin. Bydd y garfan wedi ei henwi erbyn hynny felly mae’r cyfleoedd i greu argraff yn diflannu gyda phob gêm.

Pwy a gryfhaodd ei achos y penwythnos hwn tybed? A diffyg munudau pwy sydd yn dechrau achosi pryder?

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd munudau ar y cae yn bethau hynod brin i’r Cymry yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos hwn. Gwyliodd Dan James gêm gyfartal Man U gydag Everton o’r fainc ddydd Sadwrn ac nid oedd Neil Taylor yng ngharfan Aston Villa wrth iddynt hwy drechu Arsenal.

Chwaraeodd Ben Davies ym muddugoliaeth Tottenham yn erbyn West Brom ddydd Sul, yn chwarae’i ran mewn llechen lân wrth i’w dîm ennill o ddwy gôl i ddim. Mae ail gyfnod Gareth Bale yn Spurs yn troi yn ychydig o hunllef wrth iddo dreulio’r gêm gyfan ar y fainc unwaith eto, yn gwylio gyda Joe Rodon. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Hal Rpbson-Kanu i’r gwrthwynebwyr hefyd.

Ar y fainc yr oedd Danny Ward i Gaerlŷr wrth iddynt herio Wolves ac felly hefyd Neco Williams wrth i Lerpwl groesawu Man City i Anfield ar gyfer gêm fawr y Sul.

Ar wahân i Ben Davies, Ethan Ampadu, yw’r unig Gymro arall sydd yn chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair ond ni fydd yn nhîm Sheffield Utd nos Sul gan eu bod yn wynebu Chelsea, y clwb sydd wedi benthyg Ampadu i’r Blades.

*

Y Bencampwriaeth

Mae Abertawe o fewn dau bwynt i Norwich ar frig y Bencampwriaeth wedi i’r Elyrch drechu’r Caneris o ddwy gôl i ddim ar y Liberty nos Wener. Nid oedd lle i Ben Cabango yn y tîm yn anffodus ond fe chwaraeodd y dylanwadol, Connor Roberts, y gêm gyfan.

Roedd hi’n benwythnos da i Gaerdydd hefyd wrth iddynt drechu’r gelynion, Bristol City, ddydd Sadwrn. Dechreuodd Will Vaulks, Harry Wilson a Kieffer Moore y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim ym Mryste, gyda Wilson yn creu’r gyntaf i Curtis Nelson a Moore yn rhwydo’r ail gyda pheniad nodweddiadol.

Nid oedd Jonny Williams yng ngharfan yr Adar Gleision yn dilyn ei symudiad o Charlton ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, gan iddo ddioddef anaf wrth ymarfer. Crys newydd ond stori gyfarwydd i Joniesta.

Nid Moore a oedd yr unig flaenwr o Gymro i rwydo yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn. Tom Bradshaw a gafodd bedwaredd Millwall yn eu buddugoliaeth gyfforddus hwy yn erbyn Sheffield Wednesday ac fe sgoriodd Ched Evans ei gôl gyntaf i Preston, gôl gysur wrth iddo ef ac Andrew Hughes golli yn erbyn Rotherham.

Cafodd Chris Mepham a David Brooks reolwr newydd yn Bournemouth yr wythnos hon, un dros dro o leiaf wrth i Jonathan Woodgate gymryd yr awenau yn dilyn diswyddiad Jason Tindall. Ar y fainc yr oedd Mepham yng ngêm gyntaf Woodgate ond dechreuodd Brooks yn ôl ei arfer yn y fuddugoliaeth o dair gôl i ddwy dros Birmingham.

Chwaraeodd Tom Lockyer yng nghanol amddiffyn Luton wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Huddersfield. Ond er bod Joe Morrell yn holliach unwaith eto yn dilyn anaf, nid oedd lle i chwaraewr canol cae Cymru yn nhîm nac ar fainc Nathan Jones.

Un a wnaeth ddychwelyd i’r cae y penwythnos hwn yn dilyn anaf a oedd cefnwr chwith Stoke, Morgan Fox, yn camu’n syth i’r tîm oherwydd gwaharddiad Rhys Norrington-Davies. Dechreuodd Fox a Joe Allen y gêm ddi sgôr yn erbyn Reading a chafodd Sam Vokes ychydig funudau oddi ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rabbi Matondo a thynnodd James Chester allan o’r garfan oherwydd anaf munud olaf.

Alex Samuel a oedd yr unig Gymro arall i gael munudau yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn, yn chwarae chwarter awr olaf colled Wycombe o dair gôl i ddim yn erbyn Nottingham Forest.

*

Cynghreiriau is

Mae tymor anhygoel Luke Jephcott yn parhau wedi iddo rwydo dwy gôl arall wrth i Plymouth gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn Portsmouth ddydd Sadwrn. Y Cymro ifanc yw prif sgoriwr yr Adran Gyntaf ac fe fydd hi’n synod mawr os na fydd yng ngharfan nesaf Cymru os yw’n parhau i chwarae fel hyn. Ac yn hyd yn oed mwy o syndod os bydd yn aros gyda Plymouth y tymor nesaf. Chwaraeodd Cymro arall i’r gwrthwynebwyr ond er i Ellis Harrison ddod yn agos at rwydo ni allodd efelychu camp Jephcott.

Un arall sydd yn mwynhau tymor da yn yr Adran Gyntaf yw Brennan Johonson. Mae Lincoln ar frig y tabl yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Gillingham nos Wener. Y Cymro a greodd y gôl gyntaf o dair ei dîm gyda sodliad deheuig.

Ddim yn bell ar eu holau y mae Doncaster a Matthew Smith. Creodd yntau un o goliau ei dîm hefyd wrth iddynt ennill o dair gôl i ddwy yn erbyn Rhydychen i aros yn drydydd.

Roedd buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim i Charlton yn erbyn Rochdale gyda Chris Gunter ac Adam Matthews yn cyfrannu at lechen lân rhyngddynt, Gunter yn dechrau’r gêm fel cefnwr de cyn cael ei eilyddio am ei gydwladwr.

Ildiodd Chris Maxwell ddwywaith wrth i Ipswich ennill o ddwy i ddim yn erbyn Blackpool, gyda Gwion Edwards yn dod oddi ar y fainc i chwarae’r hanner awr olaf i Fois y Tractor.

Daeth rhediad siomedig Casnewydd yn yr Ail Adran i ben gyda buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Grimsby. Dychwelodd Josh Sheehan i’r tîm yn dilyn gwaharddiad a dechreuodd Ash Baker i’r Alltudion hefyd cyn cael ei eilyddio ar hanner amser am gyn chwaraewr Cei Connah, Priestley Farquharson. Chwaraeodd Aaron Lewis ddeunaw munud olaf y gêm ar ôl symud yn barhaol i Rodney Parade yr wythnos hon yn dilyn cyfnod ar fenthyg yn gynharach yn y tymor. Nid oedd golwg o George Williams yng ngharfan yr ymwelwyr.

*

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n drydydd yn erbyn pedwerydd yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn wrth i Hibernian deithio i Aberdeen. Ymestynnodd Hibs y bwlch rhwng y timau gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim. Chwaraeodd Christian Doidge i’r ymwelwyr ac Ash Taylor i’r tîm cartref.

Mae gobeithion Owain Fôn Williams a Dunfermline o ennill dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair yn pylu wedi iddynt golli yn Arbroath yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn. Ildiodd y Cymro dwywaith ar brynhawn gwlyb a gwyntog yn Gayfield Park.

Nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus wrth iddynt drechu Roma yn Serie A ddydd Sadwrn, nac felly Andy King wrth i Lauven gael gêm gyfartal yn Standard Liege ym mhrif adran Gwlad Belg.

Mae tymor James Lawrence yn dechrau gwella yn yr Almaen. Dechreuodd y Cymro wrth i St. Pauli guro Sandhausen nos Wener i godi’r glir o safleoedd disgyn y 2. Bundesliga.

Yng Nghroatia, chwaraeodd Robbie Burton ym muddugoliaeth Dinamo Zagreb dros Lokomotiva ganol wythnos ond roedd yn ôl ar y fainc wrth iddynt wynebu Istra 1961 ddydd Sul.

 

Gwilym Dwyfor