Ar ôl ennill ei gap cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffrancwyr fis Hydref y llynedd mae’r asgellwr ifanc Louis Rees-Zammit yn mynd o nerth i nerth.

Dros y penwythnos enillodd ei bumed cap rhyngwladol gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a’i gais gwych yn y gornel yn selio buddugoliaeth hir ddisgwyliedig i dîm Wayne Pivac.

Cyn penwythnos agoriadol y bencampwriaeth eleni daw unig fuddugoliaethau Cymru dan atweiniad y gŵr o Seland Newydd yn erbyn yr Eidal (ddwywaith) a Georgia.

Eglurodd Louis Rees-Zammit fod hi’n “deimlad gwych” croesi’r gwyn galch yn Stadiwm Principality.

“Yn amlwg byddai wedi bod yn well pe bai 75,000 o bobol yn y stadiwm, ond naill ffordd mae hi wastad yn deimlad da sgorio i fy ngwlad,” meddai.

“Rhaid i mi gydnabod doeddwn i ddim yn hollol siŵr i mi sgorio neu beidio, o’n i’n hyderus, ond bu rhaid i mi gael golwg cyflym ar y sgrin fawr i wneud yn hollol siŵr.

“Doedd hi sicr ddim y diwrnod gorau o rygbi, ond fe enillon ni yn y pen draw a dyna sydd yn bwysig.

“Mi dreuliom ni gwpl o wythnosau yn paratoi ar gyfer y gêm yma, a dw i’n teimlo ein bod ni wedi hyfforddi’n dda iawn dros y bythefnos ddiwethaf er mwyn rhoi perfformiad da at i gilydd – yn amlwg doedd y perfformiad ddim gorau, ond mi gawsom ni’r pedwar pwynt yn y pen draw.”

Ar ôl y rownd gyntaf mae Cymru yn ail yn nhabl y Chwe Gwlad, y tu ôl i Ffrainc.

Braint o chwarae gyda North

Mae’r asgellwr ugain oed hefyd yn falch o gael chwarae gyda George North, sydd wedi symud o’i safle arferol ar yr asgell i chwarae yng nghanol cae.

“Mae hi wastad yn fraint chwarae gyda rhywun sydd â dros 100 o gapiau rhyngwladol,” ychwanegodd Louis Rees-Zammit.

“Mae George yn chwaraewr da iawn, yn amlwg roedd o yn y canol a fi ar yr asgell, mi oedd hi’n braf iawn chwarae y tu allan iddo – ac fe sgoriom ni’n dau sydd yn fonws i ni.”

Ar ôl cael ei yrru yn ôl i’w ranbarth i wella agweddau o’i gêm yn ystod gemau’r hydref mae Prif Hyfforddwr Cymru yn ffyddiog fod dyfodol George North sydd â 99 o gapiau i Gymru a thri i’r Llewod yng nghanol cae.

“Rydyn ni’n meddwl ei fod yn mynd i wneud canolwr da iawn,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’n dal i ddysgu’r drefn yn amlwg, ond o’r hyn gwelom ni heddiw mae’n awgrymu’n gryf ei fod yn dysgu’n gyflym.

“Fe oedd ei amddiffyn yn dda, manteisiodd ar y cyfle i sgorio a chwaraeodd ymlaen drwy anafiadau. Cafodd fys yn ei lygad tua diwedd y gêm gan golli ychydig o’i olwg am gyfnod, mi fydd yr anaf yn cael ei asesu yn fuan.”

Os bydd George North yn ffit i chwarae yn erbyn yr Alban y penwythnos nesaf bydd yn ymuno a Martyn Williams, Gareth Thomas, Stephen Jones, Gethin Jenkins ac Alun Wyn Jones fel yr unig chwaraewyr erioed i ennill cant o gapiau i Gymru.

Bydd Cymru yn teithio Stadiwm Murrayfield ddydd Sadwrn, Chwefror 13.

Cymru 21-16 Iwerddon

Lleu Bleddyn

Cymru yn curo’r Gwyddelod yng Nghaerdydd