Mae Loren Dykes wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o bêl-droed proffesiynol ar ôl chwarae i Gymru am 13 mlynedd.

Ar ôl ennill ei chap gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn 2007 aeth Dykes ymlaen i chware 105 o gemau i Gymru.

Mae nawr yn edrych i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o chwaraewyr drwy hyfforddi carfan tîm Dan 15 Cymru ac fel rhan o dîm hyfforddi Bryste.

‘Anrhydedd enfawr’

“Rwyf wedi penderfynu cyhoeddi fy ymddeoliad o chwarae pêl-droed, wrth i mi edrych tuag at fy ngyrfa hyfforddi,” meddai.

“Byddai nawr yn canolbwyntio ar fy natblygiad fel hyfforddwr gyda chyfrifoldebau ym Mryste a gyda thimau dan oedran Cymru, tra’n gweithio tuag at gwblhau’r Drwydded Hyfforddi UEFA lefel A.

“Bydd cynrychioli Cymru yn aros yn y cof am oes, roedd hi’n anrhydedd enfawr. Rwyf nawr yn gobeithio helpu’r twf ym mhêl-droed merched yng Nghymru trwy hyfforddi ac ysbrydoli’r dyfodol.

“Hoffwn ddiolch fy nheulu, cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a’r staff cynorthwyol rwyf wedi gweithio gyda dros y blynyddoedd. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol.”

Yn gyn ddisgybl yn Ysgol Cwm Tawe, dechreuodd ei diddordeb mewn pêl-droed tra’n chwarae i Glwb Pêl-droed Tref Pontardawe cyn chwarae i Lanelli, UWIC a Menywod Dinas Caerdydd.

Aeth ymlaen i chwarae i Fryste am 13 mlynedd, gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Merched Lloegr ddwy waith a chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA.