Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn deall maint yr her sy’n wynebu ei dîm nos Fercher (Chwefror 10, 5.30yh) wrth iddyn nhw groesawu Manchester City i Stadiwm Liberty ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr.
Nid yn unig maen nhw’n croesawu un o dimau gorau’r byd, ac un o arwyr Steve Cooper – ei wrthwynebydd ar yr ystlys, Pep Guardiola – ond mae gan Cooper brofiad o reoli un o’r chwaraewyr allweddol – y Sais Phil Foden, chwaraewr canol cae oedd yn aelod o dîm dan 17 Lloegr gododd dlws Cwpan y Byd o dan reolaeth Cooper yn 2017.
Daw Manchester City i Stadiwm Liberty â’r record amddiffynnol orau yn yr Uwch Gynghrair, ond bydd rhaid iddyn nhw drechu amddiffyn gorau’r Bencampwriaeth er mwyn symud ymlaen i’r rownd nesaf.
“Dw i’n un o’r rheolwyr hynny sydd yn edmygu’r hyn mae e wedi’i wneud yn y gêm,” meddai Steve Cooper am Pep Guardiola.
“Fe wnes i astudio ei dîm Barcelona dipyn.
“Yn fy hen swydd gyda Lloegr, wnes i lwyddo i wylio City dipyn oherwydd doedden nhw ddim yn bell o gartref [yn Wrecsam].
“Alla i ddim ond dangos edmygedd am yr hyn yw Pep fel hyfforddwr – dw i’n un o nifer o hyfforddwyr ifanc sydd wedi eistedd i fyny ac wedi talu sylw i’r hyn mae e wedi’i wneud.”
Profiad personol o weithio gyda Phil Foden
A Steve Cooper wedi cael y cyfle i wylio Pep Guardiola o bell dros y blynyddoedd, mae ei berthynas â Phil Foden yn un gwahanol iawn.
Sgoriodd Foden ddwywaith yn ffeinal Cwpan y Byd dan 17, ac enillodd e’r Belen Aur am chwaraewr gorau’r gystadleuaeth, ac mae Cooper yn dweud bod ei ddoniau’n amlwg iawn bryd hynny.
Mae e eisoes wedi sgorio pum gôl mewn 17 o gemau y tymor hwn ac fe allai mewnwelediad i un o chwaraewyr Manchester City fod yn fantais i Cooper – hyd yn oed os oes yna ddeg chwaraewr arall ar y cae y bydd yn rhaid i’r Elyrch ddygymod â nhw.
“Mae e’n foi da iawn,” meddai Cooper am Foden.
“Nid fy lle i yw dweud a yw e’n seren. Ond mae e’n caru pêl-droed ac ymarfer ac roedd e bob amser eisiau bod ar y bêl.
“Pan welwch chi ddoniau fel hyn ac yn gweithio â nhw’n ifanc, rydych chi’n gobeithio y gallan nhw gymryd cyfleoedd a blaguro. Mae e o dan arweinwyr gwych yn Pep a Rodolfo Borrell, a dw i’n nabod hwnnw’n dda hefyd [o Lerpwl].
“Pan ydych chi’n cydweithio â chwaraewr ifanc, dw i ddim yn un o’r hyfforddwyr hynny sy’n credu bod hyfforddwr yn datblygu chwaraewr – mae chwaraewr yn datblygu ei hun.
“Ond pan ydych chi wedi cydweithio â chwaraewr ifanc, mae’n wych eu gweld nhw’n gwneud cystal.
“Ar hyn o bryd, mae Phil yn gwneud yn wych ac mae’n braf gweld.”
Sut mae curo Manchester City?
Mewn 16 o gemau rhwng Abertawe a Manchester City, mae’r Saeson wedi ennill 13 ohonyn nhw a dim ond unwaith fu’r Elyrch yn fuddugol.
Daeth y fuddugoliaeth honno yn 2012 pan oedd yr Elyrch yn hedfan yn uchel yn yr Uwch Gynghrair – ac fe lwyddodd y canlyniad i daflu Manchester City oddi ar frig y tabl am y tro cyntaf ers pum mis.
Yr eilydd Luke Moore beniodd unig gôl y gêm oddi ar groesiad Wayne Routledge saith munud cyn y diwedd, a hynny ar ôl i Scott Sinclair fethu â chic o’r smotyn.
Roedd Micah Richards yn camsefyll wrth rwydo yn y munudau olaf a allai fod wedi cipio pwynt i’r ymwelwyr.
Felly mae’r Elyrch yn gwybod – yn hanesyddol, o leiaf – sut i guro Manchester City.
Ond mae’r sefyllfa y tro hwn yn wahanol iawn, gyda’r Elyrch yn hedfan unwaith eto – ond yn uchelfannau’r Bencampwriaeth.
Yn dilyn y fuddugoliaeth dros Norwich yn eu gêm ddiwethaf, mae’n adeg dda i’r Elyrch wynebu un o dimau gorau’r byd, ond mae Steve Cooper yn gwybod yn iawn y bydd angen perfformiad “perffaith” – a rhywfaint o lwc – nos Fercher.
Ac yntau wedi rheoli rhai o dimau’r byd – o Barcelona i Bayern Munich – fe fydd curo Guardiola yn dipyn o her i’r rheolwr sy’n dweud iddo ddysgu tipyn o wylio tîm Barcelona y Catalanwr.
“Rhaid i ni fod yn berffaith, does dim amheuaeth am hynny,” meddai. “A gobeithio nad ydyn nhw [yn berffaith].
“Y term wnes i ei ddefnyddio wrth siarad â’r tîm bore ’ma oedd chwarae ag uchelgais a phan allwn ni, chwarae ein ffordd ni ein hunain.
“Pan gawn ni gyfleoedd i chwarae, rhaid i ni ymrwymo i hynny.
“Rhaid i ni fod yn berffaith gyda’n gêm a gobeithio nad ydyn nhw [yn berffaith] ond fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw beth yn rhy wahanol.”