Mae Preston North End wedi arwyddo Ched Evans ar gytundeb parhaol o Fleetwood Town, ar ôl iddo dreulio cyfnod ar fenthyg yn Deepdale.

Symudodd Evans, sy’n 32 oed, i Preston ym mis Ionawr, a sgoriodd ei gôl gyntaf i’r clwb wrth iddynt gael eu curo 2-1 adref gan Rotherham ddydd Sadwrn (Chwefror 6) – ei drydydd ymddangosiad.

Cafodd Ched Evans, a oedd ei gytundeb yn dod i ben yr haf hwn, gyfarwyddyd i adael Fleetwood gan ei gyn-reolwr Joey Barton ym mis Rhagfyr ar ôl “materion yn ymwneud â disgyblaeth” – mae Joey Barton hefyd bellach wedi gadael y clwb hwnnw.

Roedd wedi sgorio 37 o goliau mewn 99 gêm yn ystod y ddwy flynedd a hanner y bu’n chwarae i Fleetwood.