Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn gobeithio y gall yr Adar Gleision adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Bristol City – ei gyntaf wrth y llyw – wrth iddyn nhw deithio i Rotherham yn y Bencampwriaeth heno (nos Fawrth, Chwefror 9).

Cafodd y Gwyddel ei benodi ar Ionawr 22 ar ôl i Neil Harris gael ei ddiswyddo.

Fe wnaeth ei ddwy gêm gyntaf wrth y llyw orffen yn gyfartal, ac mae’n gobeithio cynnal y rhediad di-guro.

“Bydd hi’n gêm anodd iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl wrth fynd yno.

“Dw i’n llwyr ddisgwyl iddi fod yn un anodd iawn, ond byddwn ni’n barod amdani.”

Rotherham

Fe wnaeth Rotherham ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Preston a Derby, gan godi o’r gwaelodion.

“Mae ganddyn nhw fomentwm,” meddai Mick McCarthy.

“Rydyn ni’n mynd i fyny i’w lle nhw ac mae hi bob amser yn gêm anodd yn Rotherham.

“Ond rydyn ni’n ddi-guro mewn tair gêm a newydd ennill ein gêm gyntaf ers amser maith, felly dw i’n sicr y gallwn ni fynd i fyny gyda rhywfaint o fomentwm hefyd.

“Nawr mae’n rhaid i ni wneud hynny bob wythnos.

“Dw i’n credu mai dyna’r lefel sy’n rhaid i chi fod arni er mwyn ennill gemau yn y gynghrair hon.

“Dw i’n credu pan ydych chi wedi ennill oddi cartref, gallwch chi fwynhau hynny a chodi gwên ar eich wynebau, ond fe newidiodd hynny i gyd ddydd Sul oherwydd roedden ni allan eto’n paratoi ar gyfer Rotherham.”